Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Astudiaeth Achos Procure Plus a RELM


Summary (optional)
start content

Mae cwrs ADEILADU yn meithrin gyrfaoedd newydd i helpu i fodloni’r galw yn y sector


Mae Canolbwynt Cyflogaeth Conwy - sy’n goruchwylio Cymunedau am Waith, Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth (PaCE) a Chymunedau am Waith a Mwy - wedi bod yn darparu cyfleoedd am swyddi a sgiliau mewn partneriaeth â menter tai cymdeithasol Procure Plus a RELM Construction sydd wedi ei leoli ym Mochdre.

Ymysg y rhai hynny sydd wedi elwa mae Tom Whitworth, a gafodd swydd gyda RELM Construction ar ôl iddo greu argraff ar leoliad fel rhan o gwrs pythefnos o hyd a oedd yn ymarferol ac wedi’i leoli yn y dosbarth ac a oedd yn ymdrin â themâu fel codi a symud yn gorfforol, ymwybyddiaeth amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sut i ddefnyddio offer pŵer a chyfarpar yn ddiogel a gweithio o uchder.

Dywedodd Tom, o Landudno:

“Cyn hynny roeddwn wedi gweithio ym maes arlwyo ond roeddwn eisiau rhoi cynnig ar yrfa newydd ac fe ddes i o hyd i’r cwrs hwn gyda Chanolbwynt Cyflogaeth Conwy.

Roeddwn yn chwilio am gymorth ac fe ddes o hyd i gymorth gyda nhw ar ôl dod ar draws cymaint o rwystrau; roeddent o gymorth mawr ac fe ges i fy nghyfeirio at y cwrs adeiladu a oedd yn wych.

Ychwanegodd Tom, sy’n 30 oed: “Fe fyddwn yn cynghori unrhyw un yn ardal Conwy i gysylltu gyda’r Canolbwynt Cyflogaeth gan eu bod yn helpu i gael gwared ar rwystrau i waith ac maent bob amser wrth law gyda chefnogaeth a chyngor.

Mae’r ffaith i fy lleoliad gwaith i droi yn swydd llawn amser gyda RELM Construction yn wych, ac rwy’n mwynhau’r profiad o ddydd i ddydd, gan ddysgu sgiliau newydd drwy’r amser ac rwy’n edrych ymlaen at y dyfodol.

Canmolwyd Tom gan y cwmni, sy’n arbenigo yn y sector cynllunio a chynnal a chadw adweitheddol, yn ogystal â darparu ar gyfer cynlluniau adnewyddu masnachol, a hynny am ei “agwedd gadarnhaol” a’i 'awydd i ddysgu'."


Ychwanegodd Kate Parker, Uwch Reolwr Adfywio gyda Procure Plus:

“Rydym wrth ein bodd fod ein partneriaeth gyda Chanolbwynt Cyflogaeth Conwy wedi helpu pobl fel Tom i gael swyddi da o ansawdd sy’n gynaliadwy gyda chyflogwyr adeiladu lleol gwych fel RELM.

Mae gennym ni bartneriaethau tebyg ar draws Gogledd Cymru sy’n gweithio gydag amrywiaeth o grwpiau cymunedol a chyflogwyr.  

Fel y gwelodd Tom mae adeiladu yn ddiwydiant gwych ac mae yna lawer iawn o gyfleoedd mewn amryw o grefftau a lleoliadau. 

Mae gwaith Procure Plus ar draws Gogledd Cymru yn rhoi’r hyfforddiant, sgiliau a’r lleoliadau sydd eu hangen ar bobl i allu cymryd mantais o’r swyddi hynny, waeth beth fo’u hoed, cefndir neu brofiad, a chaiff hyn ei roi am ddim.

Mae cynlluniau ar droed ar gyfer rhaglenni sgiliau eraill gyda Procure Plus yn 2022,  o ystyried y prinder cenedlaethol sydd yna o ymgeiswyr adeiladu.

Mae yna alw eang am fwy o weithwyr medrus mewn sawl crefft gan gynnwys sgaffaldwaith, gosod carpedi, gosod brics a pheirianneg drydanol a gallai’r galw, yn ôl arolwg diweddar gan Gydffederasiwn Diwydiant Prydain, bara am 'flynyddoedd'."

end content