Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Astudiaeth achos: Darren


Summary (optional)
start content

Yn byw mewn llety dros dro a gydag euogfarn wedi'i disbyddu flynyddoedd yn ôl, roedd Darren yn ei chael hi’n anodd cael gwaith. Roedd ei sefyllfa yn golygu bod ei iechyd meddwl yn dioddef ac roedd wedi colli hyder a ffydd ynddo’i hun a’i fedrau. Cysylltodd Darren â Chanolbwynt Cyflogaeth Conwy gan ei fod yn gwybod fod arno angen cymorth i gael gwaith er mwyn cefnogi ei blant.

Penodwyd Wendy Day yn fentor personol i Darren ac yn ystod eu cyfarfod cyntaf roedd yn amlwg bod angen canolbwyntio ar fagu ei hyder cyn mynd ati i chwilio am waith. Bu iddyn nhw gyfarfod bob wythnos am nifer o wythnosau i weithio ar ei ddatblygiad personol gan ganolbwyntio ar fagu ei hyder a’i hunan-barch.

Aeth Wendy a Darren ati wedyn i baratoi CV ac er bod ganddo hanes gwaith anghyson, roedd Wendy yn gallu amlygu’r profiadau a’r sgiliau trosglwyddadwy yr oedd ganddo. Bu iddyn nhw hefyd baratoi llythyrau eglurhaol a dysgodd Darren am bwysigrwydd teilwra’r rhain i swydd-ddisgrifiadau.

Yna, cyflwynodd Wendy Darren i asiantaeth recriwtio leol gan roi gwybod iddyn nhw ei fod yn barod i weithio ac arno eisiau cychwyn gweithio cyn gynted â phosib’. O fewn wythnos aeth Darren i gyfarfod sefydlu gyda chwmni ailgylchu lleol; fe greodd argraff arnyn nhw a dechreuodd weithio iddyn nhw’r diwrnod canlynol.

Mae Darren yn mwynhau ei waith fel casglwr ailgylchu ac mae’r oriau yn golygu ei fod yn gallu mynd i nôl ei blant o’r ysgol rai diwrnodau a pharhau i chwarae pêl-droed i gynnal ei ffitrwydd a’i les.

Os hoffech chi i ni eich helpu chi, ffoniwch ni ar 01492 575578.

end content