Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

ASTUDIAETH ACHOS: NICK


Summary (optional)
start content

Yn 49 oed, fe gollodd Nick ei waith am y tro cyntaf yn ei fywyd pan fu rhaid i’r gwesty lle'r oedd yn gweithio orfod cau oherwydd pandemig y Coronafeirws. Yn ystod y cyfnod clo gorfodol, cafodd Nick amser i ystyried i ba gyfeiriad roedd eisiau mynd yn ei yrfa, ac fe benderfynodd mai dyma’r cyfle perffaith i ennill sgiliau TG a chymwysterau ychwanegol a fyddai’n helpu iddo ddod o hyd i gyflogaeth gwell am dâl yn y dyfodol.

Cafodd Nick ei gyfeirio at Ganolbwynt Pwysig i Gyflogaeth Conwy gan eu bod yn cynnig cyrsiau hyfforddiant a datblygu sgiliau sydd wedi’u hariannu’n llawn, a chafodd ymgynghorydd penodol, Susan, a fu’n gweithio gydag o yn ei gefnogi i ennill cymwysterau i gyflawni ei golau gwaith.

Er bod y cyfnod clo wedi rhoi amser i Nick astudio, roedd yn golygu bod yr holl gyrsiau ar-lein ac er mwyn iddo allu eu cyflawni, roedd angen mynediad at gyfrifiadur a’r rhyngrwyd nad oedd yn gallu eu fforddio heb swydd ac yn dibynnu ar fudd-daliadau. Roedd Susan yn gwybod bod hyn yn rhwystr mawr i Nick ac roedd modd iddi fenthyg Chromebook a dongl wi-fi iddo.  

Gyda chymorth Susan, roedd modd i Nick ddefnyddio porth hyfforddiant ar-lein ac fe ddewisodd nifer o gyrsiau roedd eisiau eu hastudio – Hylendid Bwyd Lefel 1 a 2 yn ogystal â chodi a symud yn gorfforol ac asesiad risg.  Fe astudiodd gwrs arweinyddiaeth a rheoli a fyddai’n helpu iddo sicrhau swydd goruchwylio yn y dyfodol.

Hyd yn oed pan gafodd Nick ddamwain a thorri ei goes, fe barhaodd â’i astudiaethau ac fe astudiodd gyrsiau diogelwch tân, diogelwch diffoddydd tân a chymorth cyntaf yn y gweithle.  Roedd Nick yn gwybod y byddai dangos y rhain i gyflogwyr yn profi ei fod yn ddifrifol am fynd yn ôl i’r gwaith a datblygu ei yrfa.

Cyn gynted ag y cafodd cyfyngiadau eu codi ac ar ôl i’r economi ail agor, dechreuodd Nick wneud cais am swyddi ar unwaith a chafodd waith yn syth yn y diwydiant lletygarwch ar gyfradd llawer uwch gyda  mwy o gyfrifoldeb a chyfyngiadau uwch oherwydd ei wybodaeth a’i gymwysterau newydd.

Os hoffech chi i ni eich helpu chi, ffoniwch ni ar 01492 575578.

end content