Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Swyddi a gyrfaoedd Cymorth i Ddechrau Gweithio Canolbwynt Cyflogaeth Conwy Canolbwynt Cyflogaeth Conwy – Gwybodaeth i Gyflogwyr

Canolbwynt Cyflogaeth Conwy – Gwybodaeth i Gyflogwyr


Summary (optional)
Os ydych chi’n chwilio am staff fe allwn eich helpu
start content

Mae Canolbwynt Cyflogaeth Conwy’n siop bob peth i helpu pobl leol i ddod o hyd i waith gwerth chweil.

Mae ein tîm o fentoriaid a chynghorwyr yn cynnig cymorth wedi’i deilwra i unigolion, gan eu galluogi i symud ymlaen i waith, hyfforddiant addas neu i waith gwirfoddol.

Mae Canolbwynt Cyflogaeth Conwy wedi dynodi 2 Swyddog Ymgysylltu â Chyflogwyr, Clare Kingscott ac Alice Kirwan.

Mae Clare ac Alice yn gweithio’n agos gyda chyflogwyr ar draws yr holl sectorau yn Sir Conwy i helpu i lenwi swyddi gwag a chynnig cefnogaeth mewn meysydd eraill fel hyfforddiant a datblygu, gan gynnal ffeiriau swyddi yn rheolaidd a chynnig gwasanaeth paru swyddi pwrpasol.

Un nodwedd a gaiff ei datblygu yw’r Cynllun Gwarantu Cyfweliad sydd wedi ei gynllunio i helpu i hybu’r broses recriwtio ar gyfer cyflogwyr.  Mae’r cynllun yn denu mwy o bobl sy’n chwilio am waith i raglen y Canolbwynt, ac felly yn ehangu’r gronfa o ymgeiswyr y gellir eu cyflwyno i reolwyr sy’n recriwtio.

Bydd yr holl ymgeiswyr yn cael eu sgrinio ymlaen llaw a dim ond yr ymgeiswyr mwyaf addas sy’n bodloni holl fanylion eich swydd fydd yn cael eu cyflwyno ar gyfer cyfweliad, gan arbed amser ac arian i chi a nawr yw eich cyfle i fanteisio ar y gwasanaeth ychwanegol hwn.

Os hoffech chi i Clare ac Alice ymweld â’ch busnes a’ch cyfarfod i drafod y dulliau y gall Canolbwynt Cyflogaeth Conwy gefnogi eich anghenion recriwtio, cysylltwch â ni.

Cysylltwch â ni

neu llenwch y ffurflen isod i ni eich ffonio chi:

CfW-footer-updated030423

end content