Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cefnogaeth i gyflogwyr


Summary (optional)
start content

Canolbwynt Cyflogaeth Conwy

Rydym yn rhoi cymorth i bobl sy’n wynebu rhwystrau rhag cael gwaith, gan gynnwys bod yn ddi-waith yn y tymor hir, gofal plant a byw mewn tlodi neu fod mewn perygl o fyw mewn tlodi. Os hoffech helpu’r rheini sydd fwyaf pell i ffwrdd o’r farchnad lafur i gael swydd, a chefnogi unigolion â chymhelliant sy’n benderfynol o wneud y gorau o’r cyfle, ffoniwch ni ar 01492 575578 neu anfonwch e-bost atom: CEH@conwy.gov.uk.

Diswyddo gweithwyr?

Mae Cymru’n Gweithio yn rhoi cymorth i gyflogwyr a phobl sydd mewn perygl o golli eu swydd. Mae hyn yn cynnwys cyngor a hyfforddiant gyrfaoedd, adnabod ffynonellau cyllid posibl ar gyfer hyfforddiant, gwybodaeth am swyddi gwag a chymorth i lunio CV a llenwi ceisiadau am swyddi. Mae’r cymorth hwn ar gael i fusnesau o bob maint ac ar draws pob sector. Os ydych yn gyflogwr ac yn gorfod gwneud y penderfyniad anodd i ddiswyddo eich gweithwyr, mae cymorth ar gael:

Cymorth colli swydd i gyflogwyr (Llywodraeth Cymru - Gyrfa Cymru)

Cymorth Llywodraeth Cymru

Mae gan Lywodraeth Cymru bob math o sgiliau a chynnyrch cyflogaeth er mwyn helpu busnesau i dyfu a ffynnu:

Porth sgiliau i fusnes

Porth ar-lein yw hwn lle gall busnesau gael mynediad at gyngor a chymorth i’w helpu i dyfu a ffynnu. O ddatblygu sgiliau gweithwyr presennol i gynnig cymorth ar faterion recriwtio a rhaglenni hyfforddiant, mae Porth Sgiliau i Fusnes yn cynnig pob math o atebion i fodloni anghenion busnesau unigol. 

Gall busnesau greu proffil sgiliau, darganfod mwy am y cymorth sydd ar gael yn eu hardal leol a siarad ag ymgynghorwyr ymroddedig Busnes Cymru a fydd yn eu helpu i gael yr ateb cywir ar gyfer eu busnes.

Prentisiaethau

Rhaglen ar gyfer pob oedran sy’n cynnig opsiwn recriwtio cost-effeithiol i fusnesau gan eu helpu i greu cronfa o dalent newydd, llenwi bylchau o ran sgiliau a thyfu.

Yn ogystal â thalu am gostau hyfforddiant eich gweithwyr newydd, ar hyn o bryd mae pob cyflogwr newydd yn derbyn hyd at £3,000 tuag at gostau cyflogaeth ar gyfer pob prentis newydd bydd yn ei gyflogi, cyn belled â’i fod rhwng 16 a 24 oed.

ReAct

Mae ReAct yn cynnig cymorth i bobl sydd wedi colli eu swydd yn ddiweddar, sy’n ddi-waith neu o dan rybudd diswyddo cyfredol, a gall cyflogwyr elwa ar y gronfa hon o weithwyr medrus a phrofiadol a’u helpu i ddychwelyd i fyd gwaith. Mae busnesau yn derbyn hyd at £3,000 mewn rhandaliadau chwarterol yn y 12 mis cyntaf er mwyn helpu i dalu cyflogau, ynghyd â hyd at £1,000 ar gyfer unrhyw hyfforddiant sgiliau angenrheidiol sy’n gysylltiedig â’r swydd.

Hyfforddeiaethau

Gall busnesau o bob maint ddefnyddio hyfforddeiaethau i chwilio am dalent a chynnig cyfleoedd blasu yn y gwaith, a gellir addasu’r hyfforddiant i fodloni anghenion penodol er mwyn cyflawni eich amcanion busnes. Mae’r rhaglen wedi’i hanelu at bobl ifanc ddi-waith 16 ac 17 oed.

GO Wales

Mae GO Wales yn gweithio gyda myfyrwyr addysg uwch (o dan 25 oed) sy’n wynebu rhwystrau rhag ennill profiad gwaith, er mwyn eu helpu i ddod o hyd i leoliadau gwaith gyda chyflogwyr lleol. Yn dibynnu ar yr unigolyn, gall cyflogwyr ddewis cwblhau prosiect penodol yn ystod y lleoliad a gallant hefyd fod yn gymwys am gymhorthdal o 50% o’r cyflog. 

I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’r rhaglenni hyn, ffoniwch y Porth Sgiliau i Fusnes ar 03000 6 03000 neu lawrlwythwch y Daflen i Gyflogwyr.

end content