Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Y Gymraeg


Summary (optional)
start content

Canllaw o ran Sgiliau'r Gymraeg

Rydym ni’n awdurdod dwyieithog, sy’n ymdrechu i gynnig dewis o ran iaith.

Yng Nghonwy, rydym ni’n diffinio sgiliau’r Gymraeg yn y tri chategori canlynol:

  1. Gwrando a siarad
  2. Darllen
  3. Deall ac ysgrifennu

Wrth lenwi ffurflen gais, defnyddiwch yr adnodd ar-lein er mwyn asesu pa lefel sy’n disgrifio eich lefel o allu yn y Gymraeg. Fe fydd yr adnodd yma’n eich helpu i benderfynu a ydi’r swydd yn iawn i chi rŵan.

Rydym yn cynnig cyfleoedd i bob aelod o staff ddysgu ac ymarfer siarad Cymraeg, ac yn ystyried ymgeiswyr sydd eisiau gwella eu sgiliau. 

Mae gennym Uned Gyfieithu wych i gefnogi ein gweithlu hefyd.

end content