Mae'r dudalen hon yn cynnwys cysylltiadau i wybodaeth ynglŷn â sut brofiad yw gweithio i Gonwy a gwybodaeth am fanteision staff.
Mae Conwy'n gyflogwr blaengar
Nid yn unig mai ni yw cyflogwr mwyaf y Sir rydym yn gyflogwr amrywiol sy'n annog datblygiad ein staff sydd yn eu tro'n darparu gwasanaethau o ansawdd i'w cleientiaid - y cyhoedd. Mae gweithwyr yn teimlo eu bod yn cyfrannu at y gymuned leol ac yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth weithio mewn amgylchedd deinamig, teg a hyblyg.
Rydych yn helpu gwella eich cymuned
Pwy bynnag ydych chi a beth bynnag fo'ch cefndir, mae gweithio mewn llywodraeth leol yn rhoi'r cyfle i chi nid yn unig i ddatblygu eich gyrfa ond hefyd i wella bywydau pobl eraill.
Mae'r mwyafrif o wasanaethau Conwy'n effeithio ar fywyd pob dydd pobl leol mewn ffordd sylweddol. Casglu ysbwriel y cartref, yr ysgol rydych chi neu eich plant yn mynd iddi, y ganolfan hamdden rydych yn cadw'n heini ynddi, gofal i bobl dan anfantais, safonau hylendid yn eich bwytai lleol, yr ystod o ddeunydd cyfeirio yn eich llyfrgell leol - cyfrifoldeb y cyngor yw'r holl bethau hyn a llawer mwy y tu hwnt.
Rydym yn ddeinamig ac yn gyffrous
Mae Conwy'n newid yn gyson ac yn dod yn fwyfwy cystadleuol. Mae pwysau i ymateb i anghenion y gymuned leol a dymuniadau llywodraeth ganol. Mae heriau newydd yn wynebu'r rhai sy'n gweithio mewn llywodraeth leol bob dydd.
Mae gennym ystod eang o gyfleoedd gyrfa i bawb
Gyda chymaint o wasanaethau i'w darparu, nid yw'n syndod bod cymaint o amrywiaeth o yrfaoedd ar gael yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.Mae cymaint o gyfleoedd gan gynnwys, addysg, gofal cymdeithasol, peirianneg, gwasanaethau amgylcheddol, gweinyddu a chyllid.
Mae gennym becyn Buddiannau Gweithwyr ardderchog
Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ond mor llwyddiannus â'r bobl mae'n eu cyflogi. I sicrhau bod ein gweithwyr yn medru canolbwyntio ar wneud eu gwaith, dyluniwyd ein pecyn buddiannau i ddileu nifer o'r pryderon y gall pobl eu hwynebu o ddydd i ddydd yn y byd modern.
Cyfle cyfartal
Wrth fynd ati i hyrwyddo Cyfle Cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o’r gymuned.
Cliciwch yma am fanylion pellach