Strategaeth Rheoli Risg
Yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel, gwerth am arian sy’n diwallu anghenion ein cymunedau. I wneud hyn yn effeithiol, rhaid i ni ddeall a rheoli’r risgiau a all effeithio ar ein gallu i gyflawni ein nodau.
Mae ein Strategaeth Rheoli Risg yn nodi sut ydym yn canfod, asesu, rheoli a monitro ein risgiau, gan ein helpu ni i ddeall os ydynt yn cyflwyno heriau neu gyfleoedd. Mae risg yn rhan ganolog o ddarparu gwasanaeth cyhoeddus, ac er nad allwn ei atal yn gyfan gwbl, gallwn gymryd dull rhagweithiol a gwybodus i’w reoli a’i liniaru.
Mae ein canllawiau isod yn sicrhau bod rheoli risg yn rhan greiddiol o’n diwylliant a’n prosesau gwneud penderfyniadau. Mae’n cefnogi tryloywder, atebolrwydd a chadernid ar draws holl feysydd o waith y Cyngor, gan gynnwys ein partneriaethau a chynllunio gwasanaeth. Trwy reoli risg yn effeithiol, rydym yn diogelu ymddiriedaeth y cyhoedd, diogelu adnoddau, a galluogi arloesedd yn y ffordd rydym yn gwasanaethu ein cymunedau.
Canllaw Rheoli Risg: Rheoli Risg Er Mwyn Darparu Gwasanaethau Gwell (PDF)
Y Gofrestr Risgiau Gorfforaethol
Mae ein Cofrestr Risgiau Gorfforaethol yn cael ei adolygu’n ffurfiol gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a’r Cabinet bob chwe mis yn y Gwanwyn a Hydref. I gael y fersiwn ddiweddara, ewch i’n tudalen gwe pwyllgorau.
Tudalennau Perthnasol Eraill
Ar gyfer adroddiadau perfformiad ehangach, ewch i www.conwy.gov.uk/perfformiad.