Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Y Cyfrifiad 2001


Summary (optional)
Mae Cyfrifiad 2001 yn arolwg o'r holl bobl a chartrefi yn y wlad. Mae’n darparu gwybodaeth hanfodol o lefel genedlaethol hyd at lefel gymdogaethol ar gyfer y llywodraeth, busnes a’r gymuned.
start content

Mae'r tudalennau a ganlyn yn cynnwys gwybodaeth am Gonwy o Gyfrifiad 2001, a hefyd am etholaethau ac ardaloedd cynghorau cymuned a thref y Fwrdeistref Sirol.

Mae'r tudalennau Crynodebau a Phroffiliau yn crynhoi'r prif ganlyniadau o'r Cyfrifiad fel proffiliau ardal.

Mae ffeiliau Microsoft Excel yn cynnwys gwybodaeth fanylach af gyfer etholaethau, ardaloedd cynghorau cymuned a thref, Conwy, Cymru a Chymru a Lloegr wedi'u hatodi at y tudalennau eraill fel a ganlyn:

  • Pobl - newid poblogaeth 1991-2001; strwythur y boblogaeth; gwlad enedigol; yr iaith Gymraeg; grwpiau ethnig; crefydd; mudo; iechyd a darpariaeth gofal di-dâl; cymwysterau a myfyrwyr; Ystadegau Gwladol - dosbarthiadau economaidd-gymdeithasol
  • Aelwydydd a threfniadau byw - cyfansoddiad aelwydydd; sefydliadau cymunedol; trefniadau byw; statws priodasol
  • Gwaith - gweithgarwch economaidd; diwydiant cyflogaeth; grwpiau galwedigaeth; oriau a weithiwyd; cymwysterau a myfyrwyr; dull teithio i'r gwaith; Ystadegau Gwladol - dosbarthiadau economaidd-gymdeithasol
  • Tai a chyfleusterau - lleoedd ar aelwydydd a math o lety; deiliadaeth aelwydydd; aelwydydd, cyfleusterau a pherchenogaeth o geir

Atgynhyrchir deunydd hawlfraint y Goron gyda chaniatâd Llyfrfa'r DU ac Argraffydd y Frenhines ar gyfer yr Alban. Rhif trwydded glicio C02W0001672

Mae ystadegau hefyd ar gael ar wefannau eraill.

Gwybodaeth bellach

Ffôn: 01492 575291
E-bost: uned.ymchwil@conwy.gov.uk

Gweler hefyd

end content