Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Ystadegau ac ymchwil Y Cyfrifiad Cyfrifiad 2011 Prif ystadegau Cyfrifiad 2011 - bwletin ymchwil - prif nodweddion y boblogaeth

Cyfrifiad 2011 - bwletin ymchwil - prif nodweddion y boblogaeth


Summary (optional)
Mae bwletin y Cyfrifiad yn edrych ar y prif ystadegau ynglŷn â nodweddion poblogaeth y Fwrdeistref Sirol a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar 11 Rhagfyr 2012.
start content

Mae canlyniadau'r cyfrifiad yn dangos ystadegau ynglŷn ag oedran, math o aelwyd, ethnigrwydd, cenedligrwydd, sgiliau Cymraeg, iechyd a chrefydd. Lle bo'n briodol rydym wedi cymharu canlyniadau Cyfrifiad 2011 gyda data'r cyfrifiad diwethaf yn 2001, i ddangos sut mae nodweddion poblogaeth Bwrdeistref Sirol Conwy wedi newid dros y 10 mlynedd ddiwethaf.

Y prif ganlyniadau

  • Mae proffil oedran Bwrdeistref Sirol Conwy yn hŷn yn 2011 nag yn 2001. Mae llai o blant; 16.6% o'r boblogaeth yn 2011 o'i gymharu â 18.4 yn 2001. Cynyddodd y gyfran o bobl wedi ymddeol yn y Fwrdeistref Sirol o 23.1% yn 2001 i 24.4% yn 2011. Mae hyn yn llawer uwch na chyfartaledd Cymru sef 18.4% yn 2011.
  • Mae aelwydydd un person yn cyfrif am fwy na thraean yr holl aelwydydd (33.8%). Mae hyn yn gynnydd bychan ers 2001 (32.8%) ac roedd hyn dri y cant yn uwch na'r ganran ar gyfer Cymru gyfan (30.8%). Roedd aelwydydd un pensiynwr yn cyfrif am 17.1% o'r holl aelwydydd (19.2% yn 2001).
  • Bu gostyngiad bychan yng nghyfran yr aelwydydd gyda phlant dibynnol i 24.5% (26% yn 2001). Roedd hyn er gwaethaf cynnydd bychan yng nghyfran yr aelwydydd â rhieni sengl ac aelwydydd â chyplau'n cyd-fyw lle bo plant dibynnol. Dros Gymru, roedd 28.1% o'r holl aelwydydd yn cynnwys plant dibynnol, er bod y gyfran hon wedi disgyn ers 2001.
  • Mae'r gyfran o aelwydydd lle nad oes ond pensiynwyr ym Mwrdeistref Sirol Conwy wedi gostwng. Fodd bynnag, maent yn cyfrif am gyfran sylweddol o'r holl aelwydydd o hyd; 29.2% yn 2011.
  • Mae'r gyfran o aelwydydd â pherchnogion preswyl wedi disgyn ers 2001, o 72.2% i 69.4% yn 2011. Bu gostyngiad dros Gymru gyfan i 67.4% yn 2011.Bu cynnydd yn nifer yr aelwydydd sy'n rhentu'n breifat ym Mwrdeistref Sirol Conwy - 15.1% o aelwydydd, o'i gymharu ag 11.4% yn 2001. Bu cynnydd hefyd dros Gymru i 12.7% yn 2011. Mae'r gyfran o aelwydydd o fewn y sector tai rhent cymdeithasol wedi aros yn sefydlog.
  • Mae'r gyfran o drigolion 3 oed a hŷn sy'n siarad Cymraeg wedi gostwng ychydig i 27.4% yn 2011 (roedd 29.2% yn siarad Cymraeg yn 2001). Mae hyn yn ostyngiad o 2.2%. Bu gostyngiad o 1.75% dros Gymru gyfan.
  • Y ganran o boblogaeth Bwrdeistref Sirol Conwy oedd yn wyn Prydeinig yn 2011 oedd 95.4%, gostyngiad o 1.4% ers 2011 (96.8%). Yng Nghymru, roedd 93.2% yn wyn Prydeinig yn 2011. Roedd yn 96.0% yn 2001; sy'n ostyngiad o 2.8%.
  • Mae'r ganran o drigolion a aned yng Nghymru wedi cynyddu rhyw ychydig i 54.4% yn 2011. Mae hyn yn is na'r cyfartaledd dros Gymru (72.7%). At ei gilydd, ganed 95.7% o trigolion o fewn y DU, o'i gymharu â 94.5% yng Nghymru.
  • Roedd 2.5% o drigolion wedi cael eu geni mewn mannau eraill, ac wedi byw yn y DU am fwy na 10 mlynedd. Roedd 0.4% o drigolion wedi cael eu geni y tu allan i'r DU ac wedi byw yma am lai na dwy flynedd yn 2011.
  • Roedd y gyfran o drigolion Bwrdeistref Sirol Conwy oedd o oedran gweithio ac heb unrhyw salwch hirdymor cyfyngol yn 83.5%. Mae hyn yn uwch nag yn 2001, sy'n awgrymu bod y boblogaeth rhyw gymaint yn fwy iach yn 2011.
  • Mae'r gyfran o Gristnogion ym Mwrdeistref Sirol Conwy wedi gostwng i 64.7% o'r holl drigolion. 77.7% oedd y gyfran yn 2001. Mae hyn yn uwch na chyfartaledd Cymru ar gyfer 2011, sef 57.6%.
  • Mae cyfran y trigolion heb unrhyw grefydd wedi cynyddu o 14% yn 2001 i 26.1% yn 2011. Cyfartaledd Cymru yn 2011 oedd 32.1%.

Gellir defnyddio'r ystadegau hyn o dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored.
Ffynhonnell: Prif Ystadegau Cyfrifiad 2011, Swyddfa Ystadegau Gwladol © Hawlfraint Y Goron 2013

Gwybodaeth bellach

Ffôn: 01492 575291
E-bost: uned.ymchwil@conwy.gov.uk

Gweler hefyd

end content