Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Ystadegau ac ymchwil Poblogaeth Ystadegau cydraddoldeb - bwletin ymchwil

Ystadegau cydraddoldeb - bwletin ymchwil


Summary (optional)
start content

Mae'r ddogfen ymchwil hon: Ystadegau cydraddoldeb - bwletin Ebrill 2021 i 2022 (PDF) yn cynnwys gwybodaeth ar gyfer oedran, anabledd, statws priodasol, beichiogrwydd a mamolaeth, ethnigrwydd a hunaniaeth genedlaethol; crefydd / credo; rhyw, cyfeiriadedd rhywiol; ac yr iaith Gymraeg.

Hwn yw'r adroddiad monitro diweddaraf mewn cyfres a fydd yn cael ei gynhyrchu'n flynyddol gan Uned Ymchwil a Gwybodaeth Corfforaethol y Cyngor. Mae'r monitor yn edrych ar ddangosyddion cydraddoldeb allweddol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Conwy, yn cyflwyno'r data diweddaraf ac yn darparu rhai sylwadau ar beth mae'r data yn ei ddangos. Bydd ffynonellau data newydd yn cael eu hychwanegu at y monitor fel y byddant ar gael.

Mae dyfnder y dadansoddiad data yn cynrychioli lefel y data dibynadwy sydd ar gael, nid pwysigrwydd y testun. Defnyddir y bwletin i gefnogi asesiadau effaith cydraddoldeb / asesiadau effaith integredig y Cyngor.

Caiff y bwletin ymchwil hwn ei gyhoeddi unwaith y flwyddyn ym mis Ebrill fel arfer, ond bydd yn cael ei adolygu yn yr hydref eleni er mwyn ystyried canlyniadau Cyfrifiad 2021 sydd i fod i gael eu cyhoeddi yn ddiweddarach yn 2022 ac a fydd darparu gwybodaeth newydd arwyddocaol ar y pynciau dan sylw.

Cysylltiadau:

Am wybodaeth am ystadegau:
Uned Ymchwil a Gwybodaeth Corfforaethol
E-bost: uned.ymchwil@conwy.gov.uk  

Am wybodaeth am faterion cydraddoldeb:
Adnoddau Dynol
E-bost: cydraddoldebau@conwy.gov.uk 

Gweler hefyd

Asesiadau Effaith Cydraddoldeb

end content