Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Bywyd yng Nghonwy Wledig


Summary (optional)
Mae tystiolaeth anecdotaidd sy'n awgrymu bod tlodi gwledig ac amddifadedd yn broblem ym Mwrdeistref Sirol Conwy. Comisiynodd Bwrdd Creu Cymunedau Cryf a Threchu Tlodi y Cyngor ymchwil yn edrych ar fywyd yng Nghonwy wledig.
start content

Roedd y gwaith hwn yn edrych yn arbennig ar y bobl hynny sydd mewn trafferthion ariannol, yn ogystal â’r rhai nad ydynt yn defnyddio neu sy'n cael anhawster cael gwasanaethau yn y sir.

 

Prif Ganfyddiadau

  • Canfu'r ymchwil bod cymunedau cryf yng Nghonwy wledig. Roedd llawer o'r rhai a gyfwelwyd yn hapus yn byw yn eu cymdogaeth, ac yn mwynhau'r ymdeimlad cryf o gymdeithas a'r ffordd wledig o fyw.
  • Dywedodd llawer eu bod yn teimlo'n ddiogel yn eu cymdogaeth ac na fyddent yn hoffi byw yn unlle arall.
  • Mae pentrefi gweledig Conwy yn fyw yn gymdeithasol, i'r rhai hynny sy'n dymuno cymryd rhan.
  • Mynegodd ardaloedd gwledig bryder ynghylch dyfodol eu pentrefi; maent yn awyddus i weld y genhedlaeth nesaf o wirfoddolwyr yn cymryd mwy o gyfrifoldeb am eu cymdogaeth.
  • Mynegodd ardaloedd gwledig bryder ynghylch pobl ifanc yn gadael oherwydd diffyg gwaith, tai fforddiadwy a chyfleusterau fel siop yn cau. Pwysleisiodd ardaloedd gwledig y pwysigrwydd o gael ysgol bentref er mwyn cadw a denu teuluoedd i'r wlad.
  • Mae gan ardaloedd gwledig eisiau cadw eu gwasanaethau presennol, i sicrhau eu bod yn aros yn gryf a chynaliadwy.
  • Y rhai sy'n defnyddio'r Ganolfan Waith eisiau gweld canolfan yng Nghonwy wledig, a gwelliant yng nghysondeb ac agwedd staff tuag atynt.
  • Dywedodd llawer o breswylwyr gwledig eu bod yn ansicr ynghylch ble i gael cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth gyffredinol. Maent yn edrych ar bapurau bro a'r wasg leol i ganfod am ddigwyddiadau yn eu hardal. Mae'r rhai sydd gyda'r rhyngrwyd yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i ganfod am ddigwyddiadau yn eu hardal. Mae hysbysfyrddau a sgwrsio ag eraill hefyd yn ffyrdd poblogaidd o gael cyngor, gwybodaeth a chlywed am ddigwyddiadau.
  • Dywedodd preswylwyr gwledig eu bod yn disgwyl adborth ynghylch yr ymgynghoriadau maent yn cymryd rhan ynddynt. Teimlai rhai preswylwyr gwledig nad yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a chynghorau tref/cymunedol yn gwrando arnynt.
  • Mynegodd rhai preswylwyr gwledig sy'n anghyfarwydd â chyfrifiaduron bryder eu bod wedi'u gwahardd oherwydd nad ydynt yn gallu defnyddio cyfrifiadur i lenwi ffurflenni, cael hyd i wybodaeth, a siopa a bancio. Dywedodd rhai hefyd eu bod yn teimlo wedi'u gwahardd yn gymdeithasol oherwydd nad ydynt yn gallu defnyddio cyfryngau cymdeithasol. Mynegodd y rhai oedd yn byw mewn lle ble nad oes cysylltiad neu nad oedd ganddynt y rhyngrwyd gartref yr un pryderon.
  • Ceir preswylwyr yng Nghonwy wledig nad ydynt yn dymuno dysgu am gyfrifiaduron a'r rhyngrwyd. Maent yn disgwyl cael cyngor a gwybodaeth yn bersonol neu dros y ffôn.
  • Mae signal data ffôn symudol yn wael yn rhai ardaloedd gwledig. Mae hyn yn cael effaith negyddol ar breswylwyr ac nid ydynt yn gallu defnyddio cyfryngau cymdeithasol, neu gael cyngor, gwybodaeth neu wasanaethau ar eu ffôn symudol. Mae esiamplau a ddarparwyd yn cynnwys chwilio am waith, gwneud gwaith cartref, cyfryngau cymdeithasol a gwasanaethau'r cyngor.
  • Mae cludiant cyhoeddus mewn ardaloedd gwledig yn hanfodol i ddefnyddwyr gwasanaeth sy'n dibynnu ar y gwasanaeth. Dangosodd yr ymchwil nad oedd gan rai defnyddwyr gwasanaeth deulu neu ffrindiau i ofyn iddynt, neu nad ydynt yn hoffi eu poeni. Roedd ardaloedd gwledig eisiau bysus sy'n fwy aml, amserlenni cyfredol a bysus yn rhedeg ar amser.

Os hoffech gael gwybodaeth bellach ynghylch yr adroddiad hwn gallwch gysylltu â ni yn:

Partneriaeth Pobl Conwy
Blwch Post 1
Conwy
LL30 9GN

E-bost: cpp@conwy.gov.uk
Ffôn: 01492 574077

end content