Cynllun Datgarboneiddio Conwy
Yn dilyn datganiad y Cyngor o argyfwng hinsawdd yn 2019, rydym wedi datblygu cynllun datgarboneiddio i nodi’r llwybr y byddwn yn ei gymryd i fod yn Awdurdod di-garbon net erbyn 2030. Byddwn yn darparu hyn drwy’r Rhaglen Her yr Hinsawdd.
- Diffinio cwmpas gweithgareddau a ffynonellau allyriadau i'w cynnwys yn y rhaglen.
- Cyfrifo’r allyriadau sylfaenol i’w defnyddio fel dechrau’r siwrnai i fod yn ddi-garbon net.
- Modelu’r senarios a fydd yn cyflawni’r gostyngiad mwyaf mewn carbon.
- Darparu prosiectau o fewn y Rhaglen Her yr Hinsawdd.
Cwmpas
Allyriadau Cwmpas 1
- Tanwydd a ddefnyddir gan adeiladau sy’n eiddo i'r Cyngor ac sy'n cael eu gweithredu gan y Cyngor
- Nwy a ddefnyddir gan beiriant gwres a phŵer cyfunedig
- Tanwydd a ddefnyddir gan gerbydau a pheiriannau’r Cyngor
Allyriadau Cwmpas 2
- Trydan grid a ddefnyddir gan adeiladau sy’n eiddo i'r Cyngor ac sy'n cael eu gweithredu gan y Cyngor
- Trydan grid a ddefnyddir gan oleuadau stryd a TCC.
Allyriadau Cwmpas 3
- Cyflenwad a systemau trin dŵr adeiladau sy’n eiddo i'r Cyngor ac sy'n cael eu gweithredu gan y Cyngor
- Teithio at ddibenion busnes
- Cymudo staff
- Gwastraff o weithrediadau’r Cyngor
- Prynu nwyddau a gwasanaethau
- Defnydd ynni gan asedau ar brydles
Y gwaelodlin – allyriadau 2019/20 (tCO2e – tunelli o garbon deuocsid cyfatebol)
Ffynhonnell allyriadau | Allyriadau 2019/2020 (tCO2e) |
Adeiladau
|
11,373
|
Teithio at ddibenion busnes
|
544
|
Cymudo
|
4341
|
Fflyd
|
3180
|
Goleuadau stryd a TTC
|
1268
|
Cadwyn gyflenwi
|
36,365
|
Gwastraff
|
4
|
Cyfanswm yr allyriadau
|
56,618
|