Nod y blaenoriaethau yn ein Cynllun Corfforaethol yw bod yn flaengar ac arloesol, ond ni ellir eu diwallu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn unig, yn enwedig mewn cyfnod ariannol mor anodd, felly mae'n hanfodol ein bod yn gweithio mewn partneriaeth â chymunedau a sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus er mwyn gwneud y gwelliannau. Mae'n rhaid i ni symud oddi wrth fodelau traddodiadol o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, a meddwl yn arloesol i ddiwallu anghenion newidiol cymunedau os ydym yn mynd i gadw gwasanaethau'n gynaliadwy.
Er bod y Cynllun Corfforaethol dros gyfnod o 5 mlynedd, mae’n ofyniad statudol i adolygu’r cynllun corfforaethol yn flynyddol. Cafodd yr adolygiad ei ohirio eleni yn sgil y pandemig Covid-19.
Byddwn yn ymdrechu i gyflawni’r holl amcanion, fodd bynnag mae’n rhaid nodi wrth i’r pandemig byd-eang barhau i ddatblygu, mae gan yr awdurdod gyfrifoldeb i gefnogi’r ymateb cenedlaethol, a all arwain at ail ganolbwyntio blaenoriaethau ymhellach neu ddychwelyd i’r modd ymateb.
Oherwydd amser o’r flwyddyn yr adolygiad hwn (Hydref 2020), mae’n synhwyrol gosod yr amcanion am gyfnod o 17 mis (Mawrth 2022) sy’n cyd-fynd â diwedd 5 mlynedd gweinyddu a’r amserlen ar gyfer y cynllun corfforaethol. Bydd gwaith yn 2021 yn dechrau ar ddatblygu Cynllun Corfforaethol newydd yn barod ar gyfer 2022.
Ein Gweledigaeth
Conwy – Sir flaengar sy’n creu cyfleoedd
Rydym yn gweithio mewn amgylchedd sy'n newid ac un lle mae llawer o alw arnom. Ein gweledigaeth yw bod yn flaengar wrth reoli newid a'i ddefnyddio i greu cyfleoedd; i warchod yr hyn sydd gennym ni, ac adeiladu oddi ar hynny er mwyn ymateb i newid. Mae'r weledigaeth hon yn ymdrech ar y cyd. Rydym am gryfhau'r berthynas gyda'n dinasyddion er mwyn i ni allu cydweithio i wella'r sir. Fel rhan o bopeth rydym yn ei wneud, o addysgu plant, gofalu am bobl ddiamddiffyn, ailgylchu gwastraff a rheoleiddio busnesau, hyd at ddarparu cyfleusterau hamdden a pherfformiadau theatr, ag enwi llond llaw, rydym am fod yn flaengar a chreadigol fel ein bod yn gwneud y gorau o'r cyfleoedd sydd ar gael yn sir Conwy.
Ein Gwerthoedd
Mae ein gwerthoedd yn cynrychioli credoau ein sefydliad a'r ymddygiad a ddisgwyliwn gan bawb sy’n gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Darllenwch ein Gweledigaeth a'n Gwerthoedd yma (PDF, 335Kb)
Rydym yn gofyn i gymunedau bob blwyddyn a yw’r blaenoriaethau yn dal yn iawn ac yn eu hadolygu os oes angen eu haddasu. Yn yr un modd, rydym eisiau dweud wrth gymunedau beth sydd wedi cael ei gyflawni a bob mis Hydref byddwn yn darparu’r newyddion diweddaraf ar ffurf adroddiad blynyddol. Fodd bynnag, nid ydym eisiau disgwyl tan un adeg o'r flwyddyn i glywed eich barn chi - os oes gennych syniadau, neu os ydych eisiau cymryd rhan i wneud newid cadarnhaol yn eich cymuned, rhowch wybod i ni. Llenwch ein harolwg yma neu ei anfon drwy e-bost atom i’r cyfeiriad isod.
Mae fersiynau hŷn o'r adroddiadau a geir ar y dudalen hon i'w cael ar gais. tgdc@conwy.gov.uk
Oeddech chi’n gwybod bod fod gennym fideo BSL am y Cynllun Corfforaethol a Sgwrs y Sir?
Darganfod mwy am y Cynllun Corfforaethol
Cofiwch fod y sgwrs yn parhau