Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 2 Chwefror 2024.
Mae’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn egluro ymrwymiad a chymhelliad y Cyngor i fod yn sefydliad sy’n ceisio gwella bywydau pobl sydd â nodweddion gwarchodedig. Mae’n dangos sut fydd y Cyngor yn cyfrannu tuag at hybu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Mae’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol drafft yn nodi’r prif flaenoriaethau y bydd y Cyngor yn canolbwyntio arnynt am y pedair blynedd nesaf, ac mae’n cynnwys camau gweithredu o Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a Chynllun Gweithredu LHDTC+ Llywodraeth Cymru.
Gwyddom na allwn gyflawni hyn ar ein pennau ein hunain, a byddwn yn parhau i weithio gyda chymunedau a sefydliadau eraill i greu newid gwirioneddol ac ystyrlon; rydym yn gwrando ac rydym eisiau clywed eich syniadau
Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg tan 2 Chwefror 2024.
Dogfennau
Sut i ymateb
Llenwi ein holiadur byr ar-lein
Fel arall, gallwch ymateb drwy ysgrifennu atom gan ddefnyddio’r holiadur sydd ar gael mewn fformat PDF a’i ddychwelyd at:
Swyddog AD a Chydraddoldeb
Pobl a Pherfformiad
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Bwlch Post 1
LL30 9GN
E-bost: cydraddoldebau@conwy.gov.uk
Rydym yn fwy na pharod i ddarparu'r ddogfen hon mewn fformat arall gan gynnwys braille, print bras a sain. Cysylltwch â'n Swyddog Cydraddoldeb ac Adnoddau Dynol, trwy anfon e-bost at cydraddoldebau@conwy.gov.uk, neu ffoniwch 01492 574213,
Gall defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain gysylltu â ni gan ddefnyddio dehonglydd Iaith Arwyddion, drwy Wasanaeth InterpretersLive! Darperir y gwasanaeth gan Sign Solutions.