Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Pleidleisio ac Etholiadau Ynglŷn ag Etholiadau Newidiadau i Drefniadau Etholiadol Bwrdeistref Sirol Conwy

Newidiadau i Drefniadau Etholiadol Bwrdeistref Sirol Conwy


Summary (optional)
start content

Cyhoeddodd Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru eu hadroddiad Argymhellion Terfynol ar gyfer Conwy fis Mai 2019 fel rhan o’u hadolygiad o’r holl awdurdodau lleol yng Nghymru. Ystyriwyd yr argymhellion hyn gan Lywodraeth Cymru a gwnaethpwyd y Gorchymyn i gyflwyno’r newidiadau ddiwedd mis Medi 2021.

Nod unrhyw adolygiad etholiadol yw darparu llywodraeth leol effeithiol a hwylus sy’n parchu rhwymau cymunedol lleol hyd y gellir. Nod yr argymhellion yw gwella cydraddoldeb etholiadol fel bod pleidlais etholwr unigol yn gyfartal o ran gwerth i bleidlais etholwyr eraill yn y sir, hyd y bo modd.


Penawdau

  • Gostyngiad o 59 i 55 Cynghorydd (mae hyn yn arwain at gyfartaledd sirol o 1,625 etholwr i bob Cynghorydd)
  • Gostyngiad o 38 ward bresennol i 30 ward etholiadol 
  • Tair ar ddeg o wardiau ag un aelod
  • Dwy ar bymtheg o wardiau aml-aelod (sy’n cynnwys deg o wardiau â dau aelod, chwech o wardiau â thri aelod ac un ward â phedwar aelod)
  • Dim newid i 18 ward etholiadol 
  • Dim rhannu cymunedau ar draws y Fwrdeistref Sirol
  • Newid ffiniau rhwng cymunedau Llandrillo-yn-Rhos a Bae Colwyn 
  • Newidiadau i enwau rhai wardiau etholiadol


Dim newidiadau i:

  • Betws-yn-Rhos
  • Bryn
  • Colwyn
  • Conwy
  • Craig-y-don
  • Deganwy
  • Eirias
  • Glyn
  • Bae Cinmel/Kinmel Bay     
  • Llansanffraid
  • Llansannan
  • Llysfaen
  • Mochdre
  • Pandy
  • Penrhyn
  • Tywyn/Towyn
  • Tudno
  • Uwch Conwy


Newidiadau i:

Capelulo a Phant-yr-Afon/Penmaenan

  • Cyfunwyd i ffurfio un ward etholiadol
  • Cynrychiolir gan ddau Gynghorydd
  • Mae gan y ward etholiadol newydd un enw sef Penmaenmawr

Gogarth a Mostyn

  • Cyfunwyd i ffurfio un ward etholiadol
  • Cynrychiolir gan dri Chynghorydd (1 yn llai)
  • Mae gan y ward etholiadol newydd un enw sef Gogarth Mostyn

Marl a Phensarn

  • Cyfunwyd i ffurfio un ward etholiadol
  • Cynrychiolir gan dri Chynghorydd
  • Mae gan y ward etholiadol newydd un enw sef Glyn y Marl

Llandrillo-yn-Rhos a Rhiw

  • Newidiadau i’r ffiniau rhwng Llandrillo-yn-Rhos a Rhiw
  • Eiddo wedi'u symud o Rhiw i Landrillo-yn-Rhos
  • Dim newid i’r nifer y Cynghorwyr

Gele a Llanddulas

  • Cyfunwyd i ffurfio un ward etholiadol
  • Cynrychiolir gan dri Chynghorydd (1 yn llai)
  • Mae gan y ward etholiadol newydd enw newydd sef Gele a Llanddulas yn Gymraeg a Gele and Llanddulas yn Saesneg

Abergele Pensarn a Phentre Mawr

  • Cyfunwyd i ffurfio un ward etholiadol
  • Cynrychiolir gan dri Chynghorydd 
  • Mae gan y ward etholiadol newydd un enw sef Pen-sarn Pentre Mawr

Crwst, Eglwysbach a Gower

  • Cyfunwyd Crwst a Gower â Llanddoged a Maenan (oedd gynt yn rhan o ranbarth etholiadol Eglwysbach)
  • Cynrychiolir gan ddau Gynghorydd
  • Mae gan y ward etholiadol newydd un enw sef Llanrwst a Llanddoged

Llangernyw ac Uwchaled

  • Cyfunwyd Uwch Aled (cymunedau Cerrigydrudion, Llanfihangel Glyn Myfyr, Llangwm) â Phentrefoelas (oedd gynt yn rhan o ranbarth etholiadol Llangernyw) i ffurfio un ward etholiadol
  • Cynrychiolir gan un Cynghorydd
  • Mae gan y ward etholiadol newydd un enw sef Uwch Aled

Eglwysbach a Llangernyw

  • Cyfunwyd cymunedau Eglwysbach a Llangernyw i ffurfio un ward etholiadol
  • Cynrychiolir gan un Cynghorydd (1 yn llai)
  • Mae gan y ward etholiadol newydd un enw sef Eglwys-bach a Llangernyw

Betws-y-coed a Threfriw

  • Cyfunwyd Betws-y-coed (cymunedau Betws-y-coed, Capel Curig, Dolwyddelan) â chymuned Trefriw i ffurfio un ward etholiadol
  • Cynrychiolir gan un Cynghorydd (1 yn llai)
  • Mae gan y ward etholiadol newydd enw newydd sef Betws-y-coed a Threfriw yn Gymraeg a Betws-y-Coed and Trefriw yn Saesneg

Caerhun a Threfriw

  • Cyfunwyd Caerhun (cymunedau Caerhun a Henryd) â chymuned Dolgarrog i ffurfio un ward etholiadol
  • Cynrychiolir gan un Cynghorydd
  • Mae gan y ward etholiadol newydd un enw sef Caerhun


Gwybodaeth pellach

Argymhellion Terfynol Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ar gyfer Conwy  

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Trefniadau Etholiadol) 2021 (legislation.gov.uk)

Enwau ac Ardaloedd Wardiau Etholiadol a Nifer Aelodau'r Cyngor

end content