Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Cronfa'r Degwm

Cronfa'r Degwm


Summary (optional)
Gwahoddir ceisiadau am gymorth ariannol gan GRONFA'R DEGWM
start content

Deddf Seneddol yw Cronfa'r Degwm 1914 ac, oddi tani, cafodd rhan Cymru o'r Eglwys yn Lloegr ei gwahanu a'i datgysylltu. Sefydlwyd Cronfa'r Degwm o'r enillion a'r asedau, a gafodd eu rhannu rhwng yr hen Gynghorau Sir yng Nghymru a'u rhannu ymhellach rhwng yr Awdurdodau Unedol pan sefydlwyd y rheini ym 1996.

Gwahoddir ceisiadau am gymorth ariannol o'r gronfa gan sefydliadau, cymdeithasau a chlybiau ar gyfer amrywiol gynlluniau sy'n gweithredu o fewn Bwrdeistref Sirol Conwy. Ystyrir y ceisiadau hyn fel arfer ddwywaith y flwyddyn gan Aelodau o'r Cyngor mewn cyfarfodydd priodol a gynhelir ym Mehefin/Gorffennaf ac yn Nhachwedd/Rhagfyr.

Gellir gwneud cais am gymorth ariannol o'r Gronfa am y rhesymau a ganlyn:

  • Hyrwyddo addysg (DIM FFÏOEDD DYSGU);
  • Hyrwyddo gwybodaeth a gwerthfawrogi'r celfyddydau a llenyddiaeth yng Nghymru;
  • Cymorth tlodi;
  • Hyrwyddo crefydd;
  • Cymorth salwch;
  • Pobl hŷn;
  • Cymdeithasu a hamdden;
  • Materion estheteg, pensaernïol, hanesyddol a gwyddonol;
  • Ymchwil a thriniaeth feddygol a chymdeithasol, ac ati;
  • Gwasanaeth Prawf;
  • Pobl sy'n ddall neu'n rhannol ddall;
  • Argyfyngau neu drychinebau.

Mae'r grantiau fel arfer yn amrywio rhwng £50 a £1000, ond nid dyma'r swm bob tro.

Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd grantiau'n cael eu dyfarnu os bydd cais penodol wedi cael cymorth gan adrannau eraill yr Awdurdod, naill ai drwy gymorth ariannol neu mewn nwyddau. Hefyd, ni ellir rhoi grantiau ar gyfer:

  • dibenion pleidiau gwleidyddol.

Mewn rhai achosion, bydd taliadau grant yn cael eu gwneud ar ôl cael dogfennau priodol yn unig, er enghraifft, derbynebau, anfonebau neu brawf arall addas o wariant.

Mae'r Awdurdod yn disgwyl i sefydliadau gydnabod unrhyw gymorth ariannol a roddir gan y Cyngor mewn unrhyw hysbysebion neu ddogfennau sy'n cael eu cynhyrchu. Mae gan y Cyngor bolisi dwyieithog, ac mae rhan ohono'n annog sefydliadau sy'n cael cymorth ariannol gan y Cyngor i ddarparu eu gwasanaethau neu weithgareddau'n ddwyieithog, cyn belled ag y bo modd. Gellir cael cyngor ac arweiniad am arfer da gan Swyddog Iaith y Cyngor ar 01492 576130.

Os oes gennych ymholiadau pellach ac am ffurflenni cais, cysylltwch â Mrs Catherine Dowber (cronfardegwm@conwy.gov.uk) ar 01492 576201. Neu, fel arall, ysgrifennwch at:

Mrs Catherine Dowber,
Uwch Swyddog Gweinyddol,
Adran Cyllid ac Adnoddau,
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy,
Bodlondeb,
Conwy,
LL32 8DUD

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw'r wythnos gyntaf ym mis Mai a'r wythnos gyntaf ym mis Hydref bob blwyddyn.

end content