Caniateir hyd at tri ymweliad i bob aelwyd bob mis, i sicrhau bod pawb sydd eisiau defnyddio’r canolfannau yn cael apwyntiad.
Cyn i chi ddod
GWNEWCH Y CANLYNOL
- Trefnwch eich gwastraff a gwahanwch yr ailgylchu er mwyn i chi allu dadlwytho popeth o fewn eich slot 10 munud
- Rhowch eich gwastraff cartref mewn bagiau dwbl a’u cadw ar wahân am 72 awr os ydych chi wedi bod yn hunan-ynysu
- Sicrhewch fod un unigolyn yn gallu rheoli a dadlwytho’r eitemau
PEIDIWCH Â
- Dod â mwy o eitemau nag y gallwch eu dadlwytho mewn 10 munud heb unrhyw gymorth
Pan fyddwch yn ymweld â’r Ganolfan
GWNEWCH Y CANLYNOL
- Dewch â Phrawf Hunaniaeth i ddangos eich bod yn byw yn sir Conwy - efallai byddwn yn gofyn am brawf o’ch cyfeiriads
- Dewch â’r un car ag y gwnaethoch ei nodi wrth drefnu’r apwyntiad - byddwn yn gwirio’r rhif cofrestru
- Ceisiwch gyrraedd yn brydlon, er mwyn osgoi ciwiau
- Arhoswch yn eich car gyda’ch ffenestri i fyny nes y bydd staff yn gofyn i chi yrru i’r ganolfan
- Arhoswch yn y car nes fydd staff y safle yn dweud wrthych am ddod allan
- Cadwch at y rheolau cadw pellter cymdeithasol o 2 fetr (6 troedfedd) bob amser
- Sicrhewch eich bod wedi gorffen dadlwytho mewn 10 munud
PEIDIWCH Â
- Ymweld â’r safle os ydych chi neu unrhyw aelod o’ch cartref wedi profi symptomau o Covid-19
- Gofyn i staff eich helpu i ddadlwytho – mae’n rhaid iddynt gadw at y rheolau cadw pellter cymdeithasol
- Dod â rhywun gyda chi i’ch helpu i ddadlwytho eich car
Cofiwch - Os nad ydych yn parchu’r rheolau cadw pellter cymdeithasol neu’n ymddwyn yn dreisgar gyda staff ar y safle, bydd gofyn i chi adael ac mae’n bosibl y bydd yn rhaid ffonio’r Heddlu
Mynediad i safle Mochdre
Yr unig fynediad i safle Mochdre yw drwy Ffordd Dinerth. Mae system unffordd ar waith ac ni fyddwch yn gallu cael mynediad i’r safle o unrhyw gyfeiriad arall.
Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref Mochdre
Ffordd Bron-y-Nant
Mochdre
LL28 4YL
Oriau agor:
Diwrnod | Haf (1 Ebrill tan 31 Hydref) | Gaeaf (1 Tachwedd tan 31 Mawrth) |
Llun i Sadwrn |
09:00-17:00 |
09:00-16:00 |
Sul |
09:00-16:00 |
09:00-16:00 |
Canslo eich apwyntiad
Os ydych chi’n gwybod ymlaen llaw na fyddwch ar gael i fynychu’r apwyntiad - rhowch wybod i ni os gwelwch yn dda er mwyn i ni allu cynnig yr apwyntiad i rywun arall. Gallwch wneud hyn drwy ddefnyddio'r ddolen ar eich e-bost cadarnhau neu drwy ein ffonio ar 01492 575337.
Ticiwch i gytuno i'r telerau ac amodau a parhau gyda'r archeb
Archebwch eich slot canolfan ailgylchu