Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Dechreuwyr Newydd Eich cefnogi gyda'ch Dysgu a Datblygu

Eich cefnogi gyda'ch Dysgu a Datblygu


Summary (optional)
Eich helpu i ddatblygu eich gwybodaeth, sgiliau a gallu er mwyn i chi fod ar eich gorau.
start content

Llongyfarchiadau ar eich swydd newydd. Rydym am greu diwylliant i chi ddysgu a thyfu, i annog datblygiad personol a phroffesiynol, ac i’ch helpu i ofalu am eich iechyd a’ch lles a bod y fersiwn orau bosib' ohonoch eich hun.

Tra byddwch yn gweithio gyda ni, rydym yn eich annog i gymryd amser i ddatblygu. Mae amryw ffyrdd y gallwch chi ddatblygu gyda ni yng Nghonwy. Fel rhan o’ch Sgyrsiau Dal i Fyny ‘Sgwrs Conwy’, gallwch sôn am eich datblygiad gyda’ch rheolwr. Gallai hyn fod yn benodol i’ch rôl neu broffesiwn, dyheadau i ennill cymwysterau rheoli, neu rywbeth mwy cyffredinol.

Edrychwch ar ein Cynllun Dysgu a Datblygu Corfforaethol, sydd ar gael ar ein tudalennau ar y fewnrwyd. Fe welwch yr amrywiaeth o gyfleoedd dysgu rydym yn eu cynnig i chi. Diwrnod neu hanner diwrnod yw hyd y rhan fwyaf o’n cyrsiau ac maent ar gael am ddim neu am ffi fechan a fyddai’n cael ei thalu gan eich gwasanaeth.

Mae’r cynllun yn cynnwys nifer o destunau, gan gynnwys: Croeso i Gonwy, Iechyd, Lles a Chyllid, Ymwybyddiaeth o’r Menopos, Sgiliau Gwaith, Sgiliau TG ac Ar-lein, Sgiliau Cymraeg, Gweithdai Llywodraethu, Datblygu ein Rheolwyr, Datblygu drwy Brentisiaethau, Gweithio’n Ddiogel, Cymorth Cyntaf, Argyfyngau Sifil Posibl a chysylltiadau i Adnoddau Ar-lein, a phob un yn eich cefnogi i barhau i ddysgu.

Efallai y bydd gan eich gwasanaeth gyrsiau dysgu penodol ar gyfer y gwasanaeth i chi fynd arnynt hefyd a byddai’r rhain yn cael eu hariannu a’u cefnogi ganddyn nhw.

Fe wnaethom gyflwyno platfform dysgu digidol newydd ym mis Ebrill 2022 o’r enw Diwylliant Hyfforddi.  Rydym yn cynnig mynediad i bob gweithiwr i fodiwlau Meddylfryd Diwylliant Hyfforddi, sy’n adnodd hunan-hyfforddi sy’n galluogi unigolion i gynyddu eu hunan-ymwybyddiaeth, cwblhau ymarferion hunan-hyfforddi a gwneud ymrwymiadau i newid ymddygiad gan gwmpasu pynciau fel Meddylfryd Twf, Deallusrwydd Emosiynol, Syndrom Twyllwr ac Ofn Methiant.
 
Os byddwch chi’n ymuno â ni mewn rôl oruchwylio/reoli, byddwch chi’n cael mynediad at 25 o Wersi Hyfforddi byr wedi’u dylunio i gynyddu sgiliau, gwybodaeth a gallu rheolwyr i hyfforddi.

Os ydych yn defnyddio’r Modiwlau Meddylfryd neu Wersi Hyfforddi, anfonir e-bost atoch i egluro sut gallwch chi gael mynediad i’r platfform o fewn ychydig wythnosau i’ch dyddiad dechrau.

Fel cyflogwr gwasanaeth cyhoeddus, bydd gofyn i chi gwblhau rhai modiwlau gorfodol hefyd. Maen nhw’n orfodol oherwydd mae angen i chi ein helpu ni trwy fod yn wyliadwrus o ran diogelu pobl yn ein cymunedau. Rydym yn darparu hyfforddiant i chi er mwyn i chi allu cynyddu eich ymwybyddiaeth o’r materion rydym ni’n eu hwynebu, gwybod beth i gadw golwg amdano a lle i roi gwybod am unrhyw bryderon.

Os ydych chi’n gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol, mae hyfforddiant ychwanegol ar sail proffesiwn ar gael i chi hefyd. Siaradwch â’ch rheolwr atebol neu cysylltwch â’r Tîm Datblygu’r Gweithlu i gael rhagor o wybodaeth.

end content