Mae Gwasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol bellach yn berthnasol i breswylwyr o OED GWAITH sy’n byw yn Sir Conwy ar gyfer hawliadau NEWYDD a newidiadau penodol mewn amgylchiadau.
Ni fyddwch yn gallu gwneud hawliad NEWYDD am FUDD-DAL TAI os ydych o OED GWEITHIO ac eithrio mewn amgylchiadau penodol iawn.
Bydd help tuag at eich rhent yn dod trwy Gredyd Cynhwysol, a rhaid i chi ei hawlio gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Am ragor o fanylion, ewch i www.conwy.gov.uk/credydcynhwysol neu ffonio’r Swyddfa Fudd-daliadau ar 01492 576491.
Os ydych yn atebol i dalu Treth y Cyngor yn yr eiddo rydych yn byw ynddo, bydd angen i chi wneud cais am Ostyngiad yn Nhreth y Cyngor.
Allaf i hawlio?
I’ch helpu i wneud cais am Fudd-dal Tai, mae’n rhaid i chi:
- Fyw fel arfer yn yr eiddo rydych yn gwneud cais amdano
- Bod yn atebol i dalu rhent yr eiddo
Ac un ai fod:
- O oed pensiwn
- Mewn Llety â Chymorth/Eithriedig
Ni fydd pobl gyda dros £16,000 o gynilion fel arfer yn gymwys i gael unrhyw fudd-dal.
Nid yw hon yn rhestr gyflawn, ewch i GOV.UK am fwy o wybodaeth.