Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cwsmer (CSE)
Ym Mis Mai 2021 cadwodd Tîm Refeniw a Budd-daliadau Cyngor Conwy Safon Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmer, fel cydnabyddiaeth o'r gwasanaeth o ansawdd uchel y mae'n cynnig i'w gwsmeriaid.
Y safon hon, sy'n disodli'r Marc Siarter, yw safon genedlaethol y llywodraeth ar gyfer rhagoriaeth mewn gwasanaeth cwsmer. Mae'n profi meysydd blaenoriaeth y cwsmeriaid, gan ganolbwyntio'n benodol ar ddarpariaeth, prydlondeb, gwybodaeth, proffesiynoldeb ac agwedd staff.
Archwiliodd aseswr annibynnol ddogfennau, tystiolaeth ysgrifenedig, ac ymwelodd ag ardaloedd Gwasanaeth Asesu Refeniw a Budd-daliadau a siaradodd â staff a Chynghorwyr.
Fe ragorodd y Gwasanaeth ar ei ganlyniadau blaenorol, ac mae wedi llwyddo i ennill y dyfarniad am y trydydd tro.
