Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Budd-daliadau a Grantiau Grant Cefnogi Gofalwyr Di-dâl

Grant Cefnogi Gofalwyr Di-dâl


Summary (optional)
start content

Mae’r broses Ceisiadau Grant Cynnal Gofalwyr Di-dâl wedi ailagor ar gyfer y cyfnod 15/8/2022 – 2/9/2022 i ganiatáu i unrhyw hawliadau hwyr gael eu gwneud a’u prosesu.

Bydd taliad untro o £500 ar gael gan Lywodraeth Cymru i ofalwyr di-dâl cymwys yng Nghymru a oedd yn derbyn Lwfans Gofalwyr ar 31 Mawrth 2022. Bydd awdurdodau lleol unigol yn gweinyddu ac yn talu’r grant ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae’r taliad yn cael ei wneud i gydnabod y pwysau ariannol cynyddol sydd ar lawer o ofalwyr di-dâl yn sgil y pandemig, ac i’w helpu nhw i gwrdd â rhai o’r costau ychwanegol.   Mae’r taliad wedi’i dargedu ar gyfer y rheiny sy’n gofalu am rywun am o leiaf 35 awr yr wythnos ac ar incwm isel. Nid yw unigolion yn gymwys i dderbyn y taliad:

  • Os oes ganddyn nhw hawl derbyn Lwfans Gofalwyr ond nad ydyn nhw’n ei dderbyn oherwydd eu bod yn derbyn budd-dal arall ar yr un gyfradd neu ar gyfradd uwch; neu
  • Os ydych ond yn derbyn premiwm gofalwr o fewn premiwm gofalwr budd-dal prawf modd

Os ydych chi’n credu eich bod chi’n gymwys i dderbyn Grant Cefnogi Gofalwyr Di-dâl ac yn byw ym Mwrdeistref Sirol Conwy, gallwch gyflwyno hawliad drwy’r wefan hon o 9am ar 16 Mai 2022 tan 5pm ar 15 Gorffennaf 2022. 

Bydd hawlwyr llwyddiannus yn cael eu talu drwy BACS i gyfrif banc perthnasol yr unigolyn rhwng mis Mehefin 2022 a diwedd mis Medi 2022.

Sylwch, bydd arnoch chi angen cyflwyno/cofrestru hawliad gyda Chyngor eich ardal chi nid Cyngor yr ardal y mae’r unigolyn rydych chi’n gofalu amdano’n byw (os yw’n wahanol). 

Os ydych yn anhapus â’r meini prawf cymhwyso ar gyfer y Cynllun Cymorth i Ofalwyr Di-dâl, gellir cysylltu â Llywodraeth Cymru drwy’r cyfeiriad e-bost: olderpeopleandcarers@gov.wales

Os oes angen i chi gysylltu â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ynghylch y Cynllun Cymorth i Ofalwyr Di-dâl, defnyddiwch y cyfeiriad e-bost: unpaidcarerspayment@conwy.gov.uk

 

end content