Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Bodlondeb


Summary (optional)
Lleoliad huol i’ch diwrnod arbennig
start content

Mae Bodlondeb yn adeilad rhestredig Gradd II sydd wedi’i leoli rhwng mynyddoedd mawreddog a thywod euraidd Conwy, gyda golygfeydd godidog dros yr aber tuag at Landudno a Deganwy.  Wedi’i leoli tu allan i furiau tref Conwy, safle treftadaeth y byd gyda Chastell o’r 13eg Ganrif, harbwr cywrain ac amryw o fwytai a gwestai gerllaw, mae'n lleoliad gwych i gynnal eich digwyddiad arbennig.

Mae gennym hanes cyfoethog, a gallwch chi fod yn rhan o hynny wrth ddewis treulio eich diwrnod arbennig gyda ni.  O briodas, i seremoni sifil neu seremoni enwi, pen-blwydd priodas neu adnewyddu eich addunedau priodas.

Adeiladwyd y tŷ gwreiddiol ym 1877 ar gyfer Albert Wood, aelod o deulu gweithgynhyrchu llwyddiannus, a oedd yn boblogaidd gyda’r cyfoethog a’r enwog.  Roedd yr ymwelwyr yn cynnwys Syr Edward Elgar a’r Prif Weinidog David Lloyd George, er bod rhaid i’r perchennog wrthod ymweliad y Frenhines Fictoria gan fod y tŷ yn rhy fach i letya ei chymdeithion.

Erbyn heddiw, cynhelir y seremonïau yn y cyntedd eang gyda nifer o nodweddion cywrain, gan gynnwys drysau gwydr lliw prydferth, lle tân carreg, grisiau pren wedi’i gerfio a galeri gyda ffenestri llusern hardd uwchben. Am ffordd o wneud eich mynediad!

Tu allan, mae’r gerddi godidog a’r parcdir amgylchynol yn creu cefndir syfrdanol i dynnu lluniau o'ch achlysur mawr.  

Llyfryn Priodasau Bodlondeb

Ffôn: 01492 576525

Priodasau Bodlondeb,
Bodlondeb,
Bangor Road,
Conwy.


Sir Conwy, lle gwych am ddiwrnod hudol.

end content