Sefydlwyd Siarter y Galarwyr gan y Sefydliad Rheoli Mynwentydd ac Amlosgfeydd (ICCM) sef sefydliad proffesiynol wedi ymrwymo i ddatblygu a gwella gwasanaethau profedigaeth a darparu hyfforddiant ar gyfer y rhai sy'n gweithio ynddo.
I ddod yn aelod o'r siarter rhaid i awdurdod ddangos eu bod yn bodloni 33 o hawliau sylfaenol sy'n gysylltiedig ag angladdau.
Mae'r siarter hefyd yn cynnwys amcanion ac yn helpu awdurdodau i osod blaenoriaethau ar gyfer datblygu a gwella yn y dyfodol. Mae asesiad blynyddol yn sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau i wella a chodi ei safonau ac yn caniatáu iddo gael ei restru yn erbyn gwasanaethau eraill ledled y wlad.
Gellir gweld copi o'r siarter ar wefan yr ICCM www.iccm-uk.com neu gellir lawrlwytho crynodeb o hawliau'r siarter.
Siarter y Galarwy Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (PDF)