Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Amlosgfa ac amlosgiadau


Summary (optional)
start content

CCBC31000_CONWY_CREMATORIUM_BRANDING_LOGO_PACK_FINAL-10Rydym ni wedi bod yn helpu teuluoedd i drefnu amlosgiadau yn Amlosgfa Bae Colwyn ers 1957.

Gwybodaeth am yr amlosgfa  |  Dewisiadau amlosgi  |  Amlosgiadau: cwestiynau ac atebion

Mae Amlosgfa Bae Colwyn wedi ei lleoli ar dir Mynwent Bron y Nant a gellir ei chyrraedd yn rhwydd o ffordd yr A55, Cyffordd 20, ac mae digon o le parcio.

 

Gwybodaeth am yr amlosgfa

Mae safle’r amlosgfa yn cynnwys dau gapel – pob un â lle i tua 100 o bobl eistedd, ystafell aros, cyfleusterau toiled ac ystafell goffa lle mae’r Llyfrau Coffa yn cael eu harddangos. Yn y capel mae yna system dolen sain.

Gwylio'r traddodi

Mae Amlosgfa Bae Colwyn yn estyn croeso i deuluoedd (hyd at 6 o bobl) i wylio’r arch yn cael ei rhoi yn y ffwrnais amlosgi.

Os hoffech chi ddefnyddio’r gwasanaeth yma, rhowch wybod i ni neu i’ch trefnydd angladdau ymlaen llaw er mwyn i ni wneud y trefniadau. Ni allwn ddweud a fydd yr arch yn cael ei hamlosgi yn syth ar ôl y gwasanaeth, ac mae’n bosib’ y bydd oedi er mwyn hwyluso’r trefniadau i wylio’r traddodi. Os ydych chi’n poeni am hyn, yna rydym ni’n awgrymu eich bod chi’n archebu gwasanaeth cynnar.

Dewisiadau amlosgi

Mae ein holl ffioedd gwasanaethau yn cynnwys amlosgi, ffi canolwr meddygol, gordal amgylcheddol a blwch cludo llwch.Mae’r holl lwch ar gael i’w casglu'r bore canlynol neu’r un diwrnod wrth drefnu ymlaen llaw.

Amlosgi uniongyrchol

Os ydych chi’n dewis amlosgi uniongyrchol, ni fydd gwasanaeth traddodi na lle i alarwyr. Gall y dewis yma fod yn addas i chi os ydych chi’n bwriadu trefnu gwasanaeth coffa nes ymlaen.

Byd eich trefnwr angladdau dewisol yn dod a’ch anwylyd o’u capel gorffwys i’r amlosgfa'r peth cyntaf yn y bore.  Mae croeso i chi ddod i’r amlosgfa i weld yr arch, ond nid oes mynediad i’r capel. Bydd yr arch yn cael ei amlosgi ar unwaith a bydd y llwch ar gael i’w gasglu yn hwyrach y diwrnod hwnnw.

Amlosgi cost isel

Mae ein gwasanaeth amlosgi cost isel yn cychwyn am 9am neu 9:30am, gyda gwasanaeth 20 munud byrrach.

Gallwch ychwanegu elfennau personol am ffi ychwanegol. Mae’r rhain yn cynnwys cerddoriaeth, teyrngedau gweledol a gwe ddarlledu. Mae cofroddion digidol o bob gwasanaeth ar gael gan ein darparwr cyfryngau.  Cysylltwch â’ch trefnwr angladdau i gael mwy o wybodaeth.

Gwasanaeth safonol

Mae’r gwasanaeth safonol yn cynnwys gwasanaeth amlosgi ar eich dewis amser, sydd fel rheol yn cael ei arwain gan arweinydd crefyddol, gweinydd neu gynrychiolydd y teulu.

Gallwch ychwanegu elfennau personol am ffi ychwanegol. Mae’r rhain yn cynnwys cerddoriaeth, teyrngedau gweledol a gwe ddarlledu. Mae cofroddion digidol o bob gwasanaeth ar gael gan ein darparwr cyfryngau.  Cysylltwch â’ch trefnwr angladdau i gael mwy o wybodaeth.

Gwasanaeth ffarwelio

Mae ein gwasanaeth ffarwelio yn addas i ychydig o’r teulu agos dreulio 15 munud yn y capel yn gwrando ar gerddoriaeth o’u dewis.

Nid yw hwn yn wasanaeth llawn. Mae’r capel ar gael am 15 munud (gan gynnwys dod i mewn a gadael) a hyd â 20 o fynychwyr.  Mae’r gwasanaethau hyn ar gael am 12:30pm, 12:45pm a 1:30pm.

Bydd  dewis hwn yn rhoi cyfle i deulu a ffrindiau agosaf ddweud hwyl fawr heb ficer nac arweinydd crefyddol yn arwain y gwasanaeth.  Gallwch chwarae cerddoriaeth i gyd-fynd â moment o fyfyrdod ac mae hyn wedi’i gynnwys yn y gost.

Am fwy o wybodaeth neu i drafod eich gofynion, ffoniwch 01492 577733, neu anfonwch e-bost at GwasanaethauProfedigaeth@conwy.gov.uk.

Amlosgiadau: cwestiynau ac atebion

content

content

content

content

content

content

content

content

content

content

content

content

content

content

 

CCBC31000_CONWY_CREMATORIUM_BRANDING_LOGO_PACK_FINAL-10Os hoffech ragor o wybodaeth, ffoniwch 01492 577733, neu anfonwch e-bost at GwasanaethauProfedigaeth@conwy.gov.uk.

end content