Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Angladdau Ecogyfeillgar


Summary (optional)
start content

Rydym ni'n symud tuag at ddarparu gwasanaeth sy’n fwy ecogyfeillgar a gofynnwn i chithau hefyd ystyried dewisiadau ecogyfeillgar pan fyddwch chi’n trefnu angladd. Pethau fel:

  • Gofyn i’r trefnydd angladdau beidio â defnyddio cemegion pêr-eneinio  
  • Peidio â rhoi pethau plastig ar yr arch 
  • Osgoi defnyddio deunydd lapio plastig ar osodiadau blodau, gan eu clymu â deunydd naturiol yn lle


Gofynnwn i chi hefyd beidio â gosod goleuadau, clychau gwynt na melinau gwynt o amgylch y fynwent gan fod y rhain yn gallu amharu ar brofiad galarwyr. 

Claddu mewn Coetir 


Mae claddedigaethau coetir ar gael yn:

  • Mynwent Rhandir Hedd, Llanfairfechan
  • Mynwent Llanrhos, Llanrhos  
  • Mynwent Tan y Foel, Penmaenmawr


Mae claddu mewn coetir yn ddewis ecogyfeillgar, heb arch na charreg goffa draddodiadol. Yn defnyddio arch fioddiraddadwy allan o gardbord, coed naturiol neu wiail, mae’r claddedigaethau hyn yn gadael llai o ôl ar yr amgylchedd. 

Mwy o wybodaeth am gladdedigaethau coetir. 

end content