Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cofebion a Choffadwriaeth


Summary (optional)
Cofio am ein hanwyliaid yn ein mannau gwyrdd.
start content

Mae gennym ni nifer fawr o geisiadau am feinciau coffa ac mae’r rhestr aros yn un maith. Oherwydd hyn, nid oes modd i ni ar hyn o bryd dderbyn ceisiadau newydd am feinciau coffa yn ein parciau, ar ein promenadau neu yn ein mannau gwyrdd. Ymddiheurwn am unrhyw siom a achosir gan hyn.

Rydym ni’n edrych ar ddewisiadau eraill ar gyfer cofebion ac ar leoliadau newydd i osod meinciau coffa. 

Bydd ein gwefan yn cael ei diweddaru pan fydd gwybodaeth newydd ar gael.

Mae cofebion ar gael yn ein hamlosgfa a’n mynwentydd. Cysylltwch â’n Gwasanaethau Profedigaeth ar gwasanaethauprofedigaeth@conwy.gov.uk neu ffoniwch 01492 577733 i dderbyn mwy o wybodaeth.

Cofebion - Gwarchodfeydd Natur a Pharc Gwledig y Gogarth

Nid ydym yn caniatáu cofebion o unrhyw fath yn ein gwarchodfeydd natur na Pharc Gwledig y Gogarth. Maent yn gallu mynd i edrych yn flêr, ychwanegu at broblemau sbwriel a thynnu oddi ar yr ymdeimlad o fywyd gwyllt y mae nifer o bobl yn ei fwynhau.

Mae cofebion pwysig wedi’u cynllunio’n genedlaethol ar gopa Mynydd Conwy, ardaloedd o’r Gogarth ac ardaloedd o Fryn Euryn. Mae ail-drefnu’r cerrig neu greu strwythurau o fewn yr ardaloedd hyn yn drosedd dan Ddeddf Henebion a Mannau Archeolegol 1979.

Mae gan bob un o’n gwarchodfeydd natur is-ddeddfau ar waith ac mae rhai ohonynt hefyd yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig dynodedig.  Mae plannu bylbiau, blodau neu unrhyw blanhigion eraill yn anghyfreithlon.  Mae hefyd yn anghyfreithlon amharu ar, dinistrio neu waredu unrhyw blanhigion neu lystyfiant gwyllt (Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981).

Bydd unrhyw blaciau neu gofebion anawdurdodedig o unrhyw fath yn ein gwarchodfeydd natur neu Barc Gwledig y Gogarth yn cael eu gwaredu.

Balŵns a llusernau awyr

Gall rhyddhau balŵns a llusernau awyr achosi problemau i anifeiliaid sy’n pori a bywyd gwyllt ar y tir ac ar y môr.  Gallant achosi tannau a dinistrio cynefinoedd gwerthfawr.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn un o dros 80 o awdurdodau lleol sydd wedi gwahardd rhyddhau balŵns a llusernau awyr.   Rydym yn cymryd ein hymrwymiad i gynefinoedd, diogelu bywyd gwyllt a gwaredu sbwriel o unrhyw fath rhag cyrraedd y môr o ddifri.

Gwasgaru llwch

Mae Gardd Goffa yn Amlosgfa Bae Colwyn lle gallwch wasgaru llwch eich anwylyd, plannu rhosyn gyda phlac coffa neu engrafu deilen ar y goeden goffa.  Mae ffioedd yn gysylltiedig â hyn.  Cysylltwch â’n tîm Gwasanaethau Profedigaeth am ragor o wybodaeth. (01492 577733 neu gwasanaethauprofedigaeth@conwy.gov.uk)

Gofynnwn i chi beidio â gwasgaru llwch heb ganiatâd ar dir ein hamlosgfa nac yn unrhyw fynwent.

Nid oes arnoch chi angen caniatâd arbennig i wasgaru llwch o fewn ein gwarchodfeydd natur, Parc Gwledig y Gogarth neu ein parciau.

Mae miloedd o bobl yn mwynhau’r llefydd gwarchodedig hyn bob blwyddyn.  Wrth wasgaru llwch, parchwch y canllawiau canlynol os gwelwch yn dda:

  • Gwasgarwch y llwch yn ddistaw heb seremoni, ar amser tawel, gan osgoi ardaloedd prysur yn y warchodfa natur neu’r parc gwledig.
  • Gwasgarwch y llwch ar hyd y llawr gan sicrhau nad oes modd gweld tomenni o lwch
  • Peidiwch â gadael unrhyw gofebion (gan gynnwys placiau, planhigion, blodau, teganau, cardiau nag addurnau), naill ai ar y diwrnod, neu ar unrhyw adeg yn y dyfodol.  Mae’r rhain yn gallu edrych yn flêr ac ychwanegu at y sbwriel sydd angen ei glirio.  Mae cannoedd o bobl yn dewis gwasgaru eu llwch ar y Gogarth - pan fydd pobl yn gadael cofebion yn arbennig, mae’r lleoliad yn gallu ymddangos fel gardd goffa yn hytrach na lleoliad gwyllt a hyfryd a gaiff ei fwynhau gan gymaint o bobl.
  • Caiff y Gogarth a rhai o’n gwarchodfeydd natur eu diogelu fel Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig - mae’n anghyfreithlon plannu bylbiau, blodau neu unrhyw blanhigyn arall.  Mae hefyd yn anghyfreithlon amharu ar, dinistrio neu waredu unrhyw blanhigion neu lystyfiant gwyllt.

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content