Os oes gennych gwestiynau neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â ni ar 01492 577732, e-bostiwch ni ar GwasanaethauProfedigaeth@conwy.gov.uk neu llenwch ein ffurflen ar-lein.
Beddau
Sut mae’r beddau wedi’u gosod mewn mynwent?
Mae beddau’n cael eu gosod mewn patrwm rheolaidd yn y mynwentydd. Unwaith y bydd yr holl leiniau bedd wedi cael eu prynu, ni allwn gynnig unrhyw safleoedd beddau newydd yn y fynwent honno.
Pwy sy'n berchen ar fedd?
Mae modd prynu bedd gan y cyngor, ac yna mae gan berchennog y bedd yr hawl i gladdu yn y bedd ac i osod cofeb arno.
Nid yw perchnogaeth y tir yn trosglwyddo, mae'r cyngor yn berchen ar yr holl dir yn y mynwentydd. Mae'r hawl i fedd yn cael ei phrynu am uchafswm cyfreithiol o 100 mlynedd. Ar ddiwedd y cyfnod mae modd prynu’r brydles, neu fel arall mae’r hawliau’n cael eu trosglwyddo yn ôl i'r cyngor.
Mae perchennog y bedd yn derbyn gweithred ar gyfer y bedd, sy'n ddogfen gyfreithiol a dylid ei chadw mewn lle diogel. Os ydych yn dymuno trosglwyddo'r weithred i berchennog newydd, cysylltwch â'r swyddfa weinyddol ar 01492 577732.
Faint o gladdedigaethau y gellir eu cael mewn un bedd?
Yn dibynnu ar y safle, gellir cael hyd at dair claddedigaeth ym mhob bedd, fodd bynnag mae'n rhaid gofyn am hyn ar adeg y gladdedigaeth gyntaf. Unwaith nad oes lle yn y bedd ar gyfer claddedigaethau arch llawn, mae'n bosibl claddu blychau o weddillion wedi'u hamlosgi yn y bedd.
Faint mae claddedigaethau yn eu costio?
Claddu mewn coetir
Er mwyn bodloni'r galw cynyddol am gladdedigaethau mwy naturiol, mae gennym safle claddu mewn coetir ym Mynwent Lawnt Llanrhos yn Llandudno, Rhandir Hedd yn Llanfairfechan a Than y Foel ym Mhenmaenmawr.
Pa fath o gladdedigaethau gall ddigwydd mewn lleoliad coetir?
Mae lleiniau ar gyfer claddedigaethau llawn neu gladdedigaethau lludw yn y safleoedd claddu mewn coetir.
Bydd bedwen arian ifanc yn cael ei phlannu a'i chynnal gan y Cyngor ar ben pob llain bedd yn fuan wedi'r gladdedigaeth. Bydd y coed yn y pen draw yn darparu cynefin i fywyd gwyllt, gan roi bwyd a lloches i fywyd gwyllt lleol.
Mae'r goeden yn atal y bedd rhag cael ei hailddefnyddio a bydd safle’r gladdedigaeth yn cael llonydd fel rhan o'r coetir naturiol.
Sut y caiff y safleoedd coetir eu rheoli?
Mae'r ardaloedd coetir yn cael eu dosbarthu fel Safle Bioamrywiaeth yr Awdurdod Lleol. Mae hyn yn golygu torri gwair yr ardal unwaith y flwyddyn ac annog bywyd gwyllt megis blodau gwyllt brodorol.
A allaf osod carreg fedd neu gofeb arall ar gladdedigaeth mewn coetir?
Nid yw cerrig beddau yn cael eu defnyddio ar y math hwn o safle claddu, ac ni ellir gadael fasau o flodau, cerfluniau neu wrthrychau artiffisial eraill wrth lan y bedd. Nid yw hon yn fynwent draddodiadol, mae'n fan lle mae beddau’n dod yn rhan o'r dirwedd.
Ni fydd blodau wedi'u torri'n cael eu caniatáu fel rheol. Yr unig eithriad i hyn yw’r rhai sy’n cael eu gadael ar y bedd ar adeg y gladdedigaeth. Dylai'r rhain fod yn goesynnau moel heb seloffen neu lapio addurnol. Byddant yn cael eu symud pan fydd y blodau yn dechrau edrych yn flêr.
Gellir plannu blodau gwyllt neu fylbiau addas ar lain y bedd ar ôl ymgynghori â'r rheolwr parciau sy’n gyfrifol am y safle.
Pa fath o arch sy’n cael ei defnyddio mewn claddedigaeth mewn coetir?
Dim ond eirch pydradwy wedi’u gwneud o bren naturiol, cardbord, neu wair wedi’i gwehyddu sy’n cael eu caniatáu, er mwyn sicrhau bod yr ardal claddu coetir yn parhau i fod mor naturiol â phosibl. Ni ddylai unrhyw handlenni neu fewnosodiadau plastig neu fetel gael eu defnyddio.
Mae'r un amodau hefyd yn berthnasol i gasgedi gweddillion amlosgedig.
A allaf ddewis safle claddu o fewn ardal y coetir?
Bydd yr holl leiniau bedd yn y coetir ar gyfer un person. Nid oes posibl cadw beddau. Mae cynlluniau wedi cael eu datblygu i ddarparu lle digonol ar gyfer claddedigaethau coetir yng Nghonwy a mynwentydd eraill sy'n eiddo awdurdodau lleol, lle mae gofod yn caniatáu.
Heb garreg fedd, sut y gallaf ddod o hyd i fedd penodol?
Mae pob bedd (gan gynnwys lleiniau llwch) yn cael ei farcio â rhif unigryw, sydd ynghlwm wrth bolyn pren cadarn ac yn cael ei gofnodi'n ofalus ar gynllun manwl a gedwir yn swyddfa'r fynwent yn amlosgfa Bron y Nant.
Sut ydw i'n trefnu angladd ar gyfer claddedigaeth mewn coetir?
Pan fydd claddedigaeth yn digwydd yn Llanrhos, Tan y Foel neu Llanfairfechan, mae'r trefniadau yn ôl disgresiwn teulu’r ymadawedig. Gallwch ddewis trefnu angladd yn y ffordd draddodiadol, gan ddefnyddio Trefnydd Angladdau, gyda gwasanaeth ac yna’r gladdedigaeth.
Fel arall, efallai y dymunwch brynu'r bedd a chloddio bedd drwy'r Cyngor ac yna gwneud y trefniadau sy’n weddill eich hunain.
Rydym yn deall bod hyblygrwydd yn bwysig, ac ar yr amod fod yr holl amodau yn cael eu bodloni, mae’r rhan fwyaf o bethau yn bosibl.
Sut mae'r beddau’n cael eu cofnodi?
Ar ôl y gladdedigaeth, rydym yn cofnodi’r holl fanylion yn ein Cofrestr Claddedigaethau (fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith) a chyhoeddi gweithred sy'n rhoi hawl unigryw i gladdu.
Claddedigaethau Moslemaidd
Rydym yn darparu ardal yn Mynwent Lawnt Llanrhos ar gyfer claddedigaethau Moslemaidd.
.Sut mae'r beddau’n cael eu paratoi?
Bydd beddau Mwslimaidd yn cael eu paratoi yn unol â gweithdrefnau y cytunwyd arnynt gyda'r gymuned Fwslimaidd ac yn unol ag arfer Mwslimaidd.
Bydd y bedd yn cael ei alinio tuag at Mecca ar echel Gogledd-ddwyrain i Dde-orllewin.
.Ydych chi angen eirch?
Na - rydym yn caniatáu claddedigaethau heb arch, neu gladdedigaethau amdo, ym Mynwent Lawnt Llanrhos.
.Sut mae'r beddau’n cael eu cynnal a chadw?
Mae llawer o fynwentydd yn lefelu’r beddau i wneud y mynwentydd yn haws i’w cynnal. Rydym yn deal bod hyn wedi’i wahardd yn y ffydd Fwslemaidd. Felly, byddwn yn strimio'r glaswellt yn rheolaidd a chymryd gofal i beidio â mynd yn rhy agos at y bedd.
.Allwch chi gynnig claddedigaeth mewn cyfnod o 24 awr?
Gallwn, rydym yn gallu cynnig claddedigaeth Fwslimaidd o fewn cyfnod o 24 awr, ar yr amod bod yr holl ddogfennau angenrheidiol mewn trefn.
Claddedigaethau Iddewig
Mae'r ardal claddedigaethau yn Llanrhos yn cael ei weinyddu yn ôl traddodiadau Iddewiaeth ryddfrydig, gan adael i deulu'r ymadawedig benderfynu ar y trefniadau a sut i alaru ar ôl hynny. Gall Rabi ag arweinyddion cynulleidfaol roi cyngor ac esbonio arferion Iddewig lle bo angen hynny, ond ein polisi ni yw gadael i deuluoedd i ac unigolion wneud eu penderfyniadau eu hunain.
Disgwylwn na fydd angladdau yn cael eu cynnal ar y Sabath (dydd Sadwrn) - mae claddedigaethau ar gael ar gyfer pob diwrnod arall yr wythnos. Mae beddi'n cael eu torri ar gais y teuluoedd a gellir claddu hyd at dri ynddynt.
Claddedigaethau Preifat ac yn y Cartref
Gweler yr adran Claddedigaethau Preifat ac yn y Cartref am ragor o wybodaeth.
Claddu efo Cymorth Gwladol
Gweler yr adran
Claddu efo Cymorth Gwladol am raogir o wybodaeth.