Yn yr amgylchiadau hyn bydd y trefniadau angladd yn cael eu gwneud gan y trefnwr angladdau a ddewiswyd gan y Cyngor, felly mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â ni cyn gwneud unrhyw drefniadau gydag ymgymerwr arall.
Os nad yw'r unigolyn sydd wedi marw wedi nodi eu ffafriaeth i gael eu claddu neu eu hamlosgi, byddwn yn amlosgi'r corff.
Byddwn yn trefnu gwasanaeth angladd syml er na fydd hyn yn cynnwys darparu blodau, cludiant (ar wahân i'r hers) na rhybuddion mewn papurau newydd lleol. Bydd cyngor yn cael ei roi ar y rhain a threfniadau eraill angenrheidiol. Bydd y seremoni Angladd yn cael ei chynnal gan gyd-fynd mor agos â phosibl â chredoau'r unigolyn marw, a chynhelir gwasanaeth capel yn yr Amlosgfa.
Os yw'r unigolyn wedi gadael unrhyw arian yn y banc/cymdeithas adeiladu, mewn polisi yswiriant neu bensiwn bydd hwn yn cael ei ddefnyddio tuag at gost yr angladd. Os oes unrhyw eiddo personol, bydd y Cyngor yn gwneud trefniadau i gael gwared ar yr eitemau hyn. Os yw'n bosibl, bydd eiddo'n cael ei werthu a'r arian yn cael ei ddefnyddio i dalu cost yr angladd.
Cysylltwch â ni
Byddwn yn gwneud pob ymdrech i fodloni dymuniadau'r unigolyn sydd wedi marw. I gael rhagor o wybodaeth a chyngor ar Gladdedigaethau Cymorth Cenedlaethol cysylltwch â ni.