Priodasau, partneriaeth sifil neu seremonïau dewisol eraill
Rydym bellach yn gallu cynnig apwyntiadau Hysbysiad o Briodas/Partneriaeth Sifil, ac yn gallu cynnal Priodasau a Phartneriaethau Sifil yn y Swyddfa Gofrestru.
Gall unrhyw un sydd eisoes wedi archebu lle gysylltu â gwasanaeth cofrestru Sir Conwy drwy e-bostio: gwasanaeth.cofrestru@conwy.gov.uk
Cofrestru genedigaethau
Gallwn gofrestru genedigaethau.
Copïau o dystysgrifau
Gellir archebu copïau o dystysgrifau dim ond dros y ffôn drwy ffonio 01492 576525.
Cofrestru marwolaeth
Bellach, dim ond dros y ffôn y bydd apwyntiadau ar gyfer cofrestru marwolaeth yn cael eu cwblhau. Ffoniwch 01492 576525 i wneud apwyntiad.