Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu.
Y bwriad yw arwain Cymru allan o’r pandemig drwy:
- wella arolygiaeth iechyd yn y gymuned
- olrhain cysylltiadau
- cefnogi pobl i hunanynysu lle bo angen.
Yng Ngogledd Cymru, mae’r chwe awdurdod lleol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gyflawni’r rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu.
Bydd gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu GIG Cymru yn cysylltu â chi os ydych wedi profi'n bositif am y coronaferiws neu os cadarnhawyd eich bod wedi bod mewn cysylltiad agos gyda rhywun sydd â’r coronafeirws. Mae gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu GIG Cymru ar gael i’ch cefnogi drwy’r broses, yn arbennig os ydych yn ddiamddiffyn neu os oes gennych unrhyw bryderon am hunan-ynysu. Mae llinell peiriant ateb Profi, Olrhain a Diogelu Gogledd Cymru ar agor i’r cyhoedd a chaiff ei monitro o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm. Y rhif ffôn yw 01352 703800.
Profi, Olrhain a Diogelu Gogledd Cymru
Profi, Olrhain a Diogelu Gogledd Cymru - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Gwybodaeth am Breifatrwydd
Dolen gyswllt at dudalen Llywodraeth y DU ar wybodaeth am breifatrwydd: profi coronafeirws yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.