Rydym yn gweithio gyda Thwristiaeth Gogledd Cymru i roi llwyfan i fusnesau Sir Conwy i hyrwyddo eu hunain. A dyma’r cyfle perffaith i atgoffa pawb beth sydd ar stepen eu drws.
Rydym yn eich atgoffa chi, preswylwyr Sir Conwy, i fod yn ymwelydd lleol; mwynhau bwyta, aros, siopa ac antur o fewn #dygartrefdysir
Ymweld ag atyniadau lleol. Mynd am seibiant i westy neu dŷ llety, bwthyn hunanarlwyo neu barc gwyliau lleol, neu glampio’n lleol.
Mwynhau sba/cyfleuster hamdden, chwarae golff. Mwynhau coffi a chacen neu bryd o fwyd, mae gymaint o ddewis ar gael. A siopa’n lleol, am anrhegion, a’r pethau hanfodol.
Dywedodd y Cyng Sam Rowlands, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, “Mae angen cefnogaeth pobl leol ar fusnesau Sir Conwy fwy nag erioed, ac mae’n amser gwych i ni fel preswylwyr Conwy ailddarganfod dy gartref, dy sir. Mae gan Sir Conwy gymaint i’w gynnig, trwy gydol y flwyddyn.
“Nid yw 2020 wedi bod yn flwyddyn wych i lawer o bobl, a dyma pam mae angen i ni gefnogi ein gilydd fwy nag erioed. Mae staff Cyngor Conwy wedi gweithio gyda busnesau, a pharhau i wneud hynny, i sicrhau eu bod ar agor i groesawu ymwelwyr mewn ffordd ddiogel a phleserus. Helpwch ni i helpu ein gilydd trwy siopa’n lleol a thrwy ymweld â mannau lleol”.
Caiff tua 12,000 o swyddi yn Sir Conwy eu cefnogi trwy dwristiaeth. Mae effaith economaidd twristiaeth werth bron £1bn y flwyddyn i Sir Conwy.