Ers 1 Ebrill 2017, dan Ran 7, Adran 139 Deddf Tai (Cymru) 2014, mae gan awdurdodau lleol yng Nghymru'r hawl i godi premiymau Treth y Cyngor ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi.
Ers 1 Ebrill 2023 mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi hawl i awdurdodau lleol godi premiymau hyd at 300% dros y ffi safonol ar dai gwag hirdymor ac ail gartrefi.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, yn ei gyfarfod ar 19 Hydref 2023, yn unol ag adran 12a a 12b Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, fel y’i cynhwysid gan adran 139 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, wedi penderfynu’r canlynol:
- (i) Cymeradwyo’r penderfyniad i godi Premiwm Treth y Cyngor o 100% ar gyfer Ail Gartrefi a Chartrefi Gwag Hirdymor o 1 Ebrill 2024, ac
- (ii) Argymell lefel fynegol o Bremiwm Treth y Cyngor o 200% ar Ail Gartrefi a Chartrefi Gwag Hirdymor o 1 Ebrill 2025, gyda dylid cyflwyno premiwm uwch o 300% ar gyfer eiddo gwag hirdymor sydd wedi bod yn wag am bum mlynedd neu fwy o fis Ebrill 2025 ymlaen, gan adolygu hyn yn ystod 2024/2025.
Mae’r Gweithgor Tai Fforddiadwy (Premiwm Treth y Cyngor) yn cyfarfod bob blwyddyn ariannol i adolygu’r sefyllfa gan ystyried yn fanwl yr holl wybodaeth sydd ar gael ynghyd â chanlyniadau'r ymgynghoriad diwethaf cyn cynnig argymhelliad, a fydd wedyn yn cael ei adolygu a'i ystyried drwy'r broses ddemocrataidd. Gallai codi’r Premiwm gynhyrchu refeniw ychwanegol a ddefnyddir i gefnogi’r gyllideb Tai a Digartrefedd, sydd o ganlyniad i’r galw wedi cynyddu o £2.15 miliwn yn 2020/21 i £5.36 miliwn yn 2024/25. Bwriad y polisi yw defnyddio’r premiwm fel ffordd i gyflawni’r amcanion canlynol. Os yw’n llwyddiannus, bydd yn lleihau’r refeniw a gynhyrchir o’r premiwm a’r galw a roddir ar y gyllideb Tai a Digartrefedd.
- Ddod â thai gwag hirdymor yn ôl i ddefnydd
- Cynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy
- Gwella cynaliadwyedd cymunedau lleol
- Helpu i ddiwallu anghenion tai lleol
Mae ymgynghoriad pellach ar y premiymau arfaethedig yn cael ei gyflawni ar hyn o bryd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, a gwerthfawrogwn eich mewnbwn yn yr ymgynghoriad. Bydd canlyniadau’r ymgynghoriad yn cael eu hystyried gan y Gweithgor Tai Fforddiadwy (Premiwm Treth y Cyngor).
Llenwch yr arolwg yr ymgynghoriad
Mae’r ymgynghoriad hwn yn cau ar 18 Awst 2024.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at trethycyngor@conwy.gov.uk.
Gweld ein rhybudd preifatrwydd.