Pwrpas y cynllun
Beth fydd y cynllun yn ei wneud?
- Lleihau’r perygl o lifogydd yn y pentref
- Creu cynnydd o 70% yng nghynhwysedd y system
Bydd hyn yn cael ei gyflawni trwy:
- wneud y cwlfertau presennol yn fwy
- lledu sianeli’r afon
- chael gwared ar unrhyw rwystrau yn y sianeli
Buddion amgylcheddol
- Cael gwared ar adeileddau cored mewn tri lleoliad i helpu pysgod i ymfudo
- Gosod bafflau ar hyd gwely’r sianel i greu mannau gorffwys i bysgod sy’n ymfudo
- Gosod wal gynnal Rootlok i wella bioamrywiaeth
Buddion cymdeithasol
- Creu dwy ardal gymunol newydd ar hyd yr A544
Cyllid y Prosiect
- Ariannwyd 85% gan Lywodraeth Cymru
- Ariannwyd 15% gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Mae’r gwaith yn cynnwys:
- cynyddu maint y cwlfert sy’n croesi’r A544 ar ben gogleddol y pentref
- gwella sianel yr afon yn Nalar Bach
- adeiladu argae newydd yn Nalar Bach yn y maes parcio hyd at gilfach Llain Hiraethog
- gwella’r sianel o flaen Llain Hiraethog
- disodli’r cwlfert o sianel Llain Hiraethog i lawr Ffordd Gogor, a chysylltu’n ôl i Afon Bach yn Uwch yr Aled
Bydd y gwaith hefyd yn cynnwys:
- Dargyfeirio ceblau BT, carthffos fudr a phrif gyflenwad dŵr Dŵr Cymru
- Creu ardal i eistedd yn Llain Hiraethog
Rhaglen:
Cam dylunio wedi’i gwblhau: 31 Mai 2021
Cam Tendr Adeiladu: Mehefin 2021
Gwaith yn dechrau: Chwefror 2022
Dyddiadau a Lleoliadau Ffyrdd sydd wedi Cau
- Llwybr troed a maes parcio rhwng Maes Creiniog a Ffordd Gogor am 12 wythnos, o ddydd Llun, 9 Mai tan dydd Mercher, 20 Gorffennaf (dyddiad disgwyliedig)
- A544 i'r gogledd o’r pentref am 3 diwrnod o ddydd Sul 12 Mehefin tan dydd Mercher 15 Mehefin
- Bydd Ffordd Gogor ar gau am 12 wythnos o ddydd Mercher 20 Gorffennaf tan dydd Sadwrn 29 Hydref (dyddiad disgwyliedig)
- Bydd pen gogleddol Ffordd Gogor a'r A544 ar gau am 4.5 wythnos o ddydd Mawrth 20 Medi tan dydd Sadwrn 29 Hydref (dyddiad disgwyliedig)
Rhagor o wybodaeth
Am ddiweddariadau rheolaidd, ewch i wefan prosiect MWT: www.mwtcivilengineeringltd.co.uk
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â:
Swyddog Ymgysylltu â’r Cyhoedd MWT, Lauren Thomas
E-bost: laurenthomas.mwt@outlook.com neu ffoniwch 01492 338280
Tîm ymgynghori’r Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau’r Cyngor
E-bost: erf@conwy.gov.uk neu ffoniwch 01492 575337