Drwy gyfrwng gweithdai, prosiectau a digwyddiadau arbennig, mae Gwasanaeth Celfyddydau Mynegiannol Conwy yn galluogi plant a phobl ifanc i archwilio eu creadigrwydd a datblygu sgiliau newydd.
Fodd bynnag, oherwydd effeithiau estynedig y pandemig dim ond gwersi offerynnol rydym ni'n eu cynnig i ddisgyblion yn yr ysgolion ar hyn o bryd, ond byddwn yn ehangu ein darpariaeth yn raddol dros amser i gynnig:
- Gwersi offerynnol cwricwliadd yn y dosbarth
- Prosiectau dosbarth Cwricwlaidd/Cwricwlwm i Gymru
- Grwpiau Cerddorol
- Digwyddiadau grŵp penodol er mwyn targedu grwpiau allweddol o ddysgwyr.
Darpariaeth Gyfredol
Mae Gwasanaeth Cerdd Conwy yn cynnig cyfle i bob disgybl rhwng 7 a 18 oed ddysgu gyda thiwtoriaid arbenigol.
Mae Gwasanaeth Cerdd Conwy yn cynnig:
- Llinynnau: ffidil, fiola, soddgrwth a bas dwbl
- Pres: cornet, trwmped, trombôn, corn tenor, ewffoniwm, corn ffrenig a thiwba
- Chwythbrennau: ffliwt, clarinét, sacsoffon, obo a basŵn
- Telyn
- Gitâr: gitâr acwstig clasurol, trydan a bas
- Offerynau taro: cit drwm, timpani ac offerynnau taro tiwniedig
- Llais
- Allweddellau
Nid yw pob offeryn ar gael ym mhob ysgol, ond beth am siarad ag ysgol eich plentyn i weld a ellir cyflwyno offeryn newydd?
Manteision dysgu cerddoriaeth
Mae plant sy'n dysgu chwarae offeryn yn:
- Gwneud yn well yn yr ysgol
- Hapusach ac yn iachach
- Cyfarfod plant ac athrawon eraill mewn sefyllfaoedd cymdeithasol newydd
- Datblygu sgiliau – gwaith tîm, canolbwyntio, hunanddisgyblaeth, cof
- Magu hyder a hunan barch
Cychwyn gwersi
Siaradwch â’r ysgol am yr hyfforddiant cerdd sydd ar gael a gwnewch gais i Bennaeth yr ysgol, y Pennaeth Cerdd neu’r Cydlynydd Cerdd.
Gall eich plentyn gymryd rhan mewn sesiwn flasu, cyfarfod y tiwtor a rhoi cynnig ar offeryn. Ar ôl y sesiwn flasu, gallwch gytuno ar ddyddiad cychwyn gwersi gyda'r ysgol.
Mae’r rhan fwyaf o blant yn cychwyn gwersi ym mis Medi.
Mae gwersi cerdd fel arfer yn cael eu darparu yn yr ysgol yn ystod oriau ysgol arferol. Bydd ysgolion uwchradd fel arfer yn trefnu rota fel nad yw disgyblion yn colli’r un wers bob wythnos.
Caiff y disgyblion eu haddysgu mewn grwpiau bychain, mewn parau neu’n unigol, yn dibynnu ar yr offeryn. Bydd disgyblion o safon debyg yn aml yn cael eu rhoi mewn grŵp gyda’i gilydd.
Offerynnau
Mae ysgolion yn cael benthyca offerynnau am ddim, ac yna'n rhoi eu benthyg am ddim i’r disgybl (ar wahân i'r delyn, offerynnau taro ac allweddellau / piano). Gellir benthyca offeryn am hyd at dair blynedd.
Ar ôl cadarnhau diddordeb y disgybl, mae rhieni'n cael eu hannog i brynu eu hofferyn eu hunain i’w plentyn.
Mae AIPS (Cynllun Cymorth i Brynu Offeryn) yn helpu ysgolion i brynu offerynnau ar gyfer gwersi wythnosol a’u gwerthu i rieni heb TAW – arbediad go iawn.
Mae offerynnau yn ddrud ac yn werthfawr. Rydym yn disgwyl i ddisgyblion drin yr offerynnau gyda pharch ac yn ôl cyfarwyddiadau eu tiwtor.
Fe allwn ni eich helpu chi i logi telyn am flwyddyn am bris rhesymol iawn. Trafodwch y mater gyda’n tiwtor telyn.
Costau
Yr Awrdurdod Lleol sy'n darparu'r gwasanaeth ac yn pennu cost y gwersi. Mae'r taliad yn cael ei gasglu drwy system ParentPay pob Ysgol unigol.
Cost pob gwers yw £6. Gallai eich plentyn gael ei addysgu yn unigol neu mewn pâr neu grŵp. Os bydd eich plentyn yn dechrau dysgu ail offeryn neu os yw eu brawd neu chwaer yn cymryd gwersi, mae'r pris o hynny ymlaen yn cael ei ostwng i £4. Mae’r disgyblion hynny sy'n gymwys am ginio am ddim yn cael eu gwersi am ddim. Yn yr ysgol uwchradd, gall disgyblion gael gwersi estynedig am gost ychwanegol. Cynigir y gwasanaeth am 32 wythnos y flwyddyn ond gallai hynny amrywio rhywfaint o ysgol i ysgol.
Bydd angen talu'r ffioedd fesul tymor neu flwyddyn. Nid oes posib cael ad-daliad os yw eich plentyn yn rhoi'r gorau i'r gwersi cyn diwedd y tymor gan fod cost ac amserlen y tiwtoriaid eisoes wedi'u dyrannu.
Yn dibynnu ar yr offeryn, efallai y bydd angen i chi brynu llyfr tiwtor ac eitemau bychain fel llinynnau, corsennau ac olewon. Bydd y tiwtor yn eich cynghori am hyn.
Bydd angen talu ffioedd i sefyll arholiadau cerdd gyda bwrdd cerdd cydnabyddedig fel yr ABRSM. Efallai y gofynnir i chi gyfrannu tuag at gost cyfeilydd.
Sut allwch chi helpu eich plentyn
Mae dysgu chwarae offeryn neu ddysgu canu yn werth chweil AC yn her. Gallwch helpu eich plentyn trwy eu hatgoffa i gofio mynd â'u hofferyn a'u cerddoriaeth i'r ysgol ar ddiwrnod y wers a'u hannog i ymarfer yn rheolaidd.
Manylion Cyswllt
Wrth i gyfyngiadau Covid lacio, fe rown ni wybod i chi yma am unrhyw ddarpariaeth bellach.
Hoffai’r Awdurdod Lleol ddiolch i’r ysgolion am eu cefnogaeth i'r gwasanaeth cerdd ac am roi cyfle mor bwysig i’w disgyblion.
Cysylltwch â celfacherdd@conwy.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.
