Yn eu cyfarfod ar 10 Hydref 2023, cymeradwyodd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fod y cynnig i uno Ysgol Babanod Mochdre ac Ysgol Cystennin yn mynd yn ei flaen i’r cam Hysbysiad Statudol.
Mae crynodeb o'r Hysbysiad Statudol ar gael isod ac mae'r hysbysiad llawn ynghlwm.
P'un a oes gwrthwynebiadau'n dod i law o fewn y cyfnod statudol ai peidio, bydd y cynnig yn cael ei ystyried gan yr Awdurdod ar ddiwedd y cyfnod gwrthwynebu o 28 diwrnod.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Coed Pella, Bae Colwyn, LL29 7AZ
Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013
HYSBYSIR DRWY HYN yn unol ag Adran 41 a 43 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a Chod Trefniadaeth Ysgolion 2018 fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, wedi ymgynghori a’r cyfryw rai sy’n ofynnol, yn cynnig yr isod:
1. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cynnig sefydlu ysgol gymysg cyfrwng Saesneg newydd i Fochdre ar gyfer plant 3–11 oed, i’w chynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar safleoedd Ysgol Babanod Mochdre ac Ysgol Cystennin.
O ganlyniad i’r cynigion a amlinellir uchod:
2. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cynnig cau YSGOL BABANOD MOCHDRE, STATION ROAD, MOCHDRE, LL28 5EF. Mae’r ysgol ar hyn o bryd yn cael ei chynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Cynigir gweithredu’r cynnig ar 31 Awst 2024.
3. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cynnig cau YSGOL CYSTENNIN, THE OLD HIGHWAY, MOCHDRE, LL28 5AU. Mae’r ysgol ar hyn o bryd yn cael ei chynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Cynigir gweithredu’r cynnig ar 31 Awst 2024.
Gall unrhyw un wrthwynebu'r cynigion cyn pen cyfnod o 28 diwrnod o ddyddiad cyhoeddi'r cynigion hyn, hynny yw, erbyn 5 Rhagfyr 2023, drwy:
Dyddiad: 07/11/2023
Hysbysiad Statudol Ysgolion Mochdre Schools Statutory Notice (PDF)
content
Yn y cyfarfod ar 13 Mehefin 2023, rhoddodd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gymeradwyaeth i fwrw ymlaen ag ymgynghoriad ynglŷn â’r cynnig i uno Ysgol Babanod Mochdre ac Ysgol Cystennin.
Bydd y cyfnod ymgynghori hwn yn para o 19 Mehefin 2023 tan 7 Awst 2023.
Bydd y Cyngor yn ystyried yn ofalus unrhyw sylwadau a wneir yn ysgrifenedig erbyn y dyddiad hwn.
O ganlyniad i’r ymgynghoriad, gallai'r Cyngor benderfynu peidio bwrw ymlaen ymhellach â’r cynnig neu i fwrw ymlaen â’r cynnig neu addasiad ohono. Byddai unrhyw gynnig ffurfiol yn cael ei gyhoeddi ar ffurf hysbysiad statudol cyhoeddus.
Mae gan y Cyngor bwerau i gynnig ehangu neu gau ysgolion. Pe bai’r cynigion yn cael eu cyhoeddi ar ôl y cyfnod ymgynghori hwn, yna byddai cyfnod statudol o 28 diwrnod lle gellir cyflwyno sylwadau pellach a gwrthwynebiadau ffurfiol.
Ni fydd unrhyw ymatebion yn ystod yr Ymgynghoriad yn cael eu hystyried fel gwrthwynebiadau ffurfiol. Er mwyn i ymatebion gael eu hystyried fel gwrthwynebiadau statudol mae’n rhaid eu cyflwyno yn ysgrifenedig neu drwy e-bost o fewn y cyfnod gwrthwynebu o 28 diwrnod.
Boed gwrthwynebiadau yn dod i law o fewn y cyfnod statudol ai peidio, bydd y cynnig yn cael ei ystyried gan yr Awdurdod ar ddiwedd y cyfnod gwrthwynebu o 28 diwrnod. Disgwylir i Gabinet Conwy benderfynu ar y cyhoeddiad hwn ym mis Rhagfyr 2023.
Dyddiad cau’r ymgynghoriad
7 Awst 2023
Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cyhoeddi adroddiad ar yr ymgynghoriad i’r Cabinet ei ystyried yn ystod Tymor Ysgol yr Hydref.
Dogfennau
Mae’r Adroddiad Ymgynghori ar gael i’w weld isod.