Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Ymgynghoriad Symud Canolfan Ymddygiad y Cyfnod Sylfaen - Rhagarweiniad


Summary (optional)
start content

1. Rhagarweiniad

1.1 Cefndir


Bu canolfan adnoddau Ymddygiad y Cyfnod Sylfaen yn Ysgol Ffordd Dyffryn tan ddiwedd blwyddyn academaidd 2021-22.  Cafwyd rhybudd gan y Corff Llywodraethu ym mis Ebrill 2022 nad oedd lle i’r ganolfan adnoddau yn yr ysgol mwyach.

Er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau ar gyfer dysgwyr yn y Cyfnod Sylfaen ym mlwyddyn academaidd 2022-23, symudodd y ddarpariaeth dros dro i Ganolfan Addysg Conwy, ac Uned Cyfeirio Disgyblion Cyfnod Allweddol [2] y Ddraig Goch yn Llandudno. Golyga hynny y gall dysgwyr a ymunodd â safle Ffordd Dyffryn ddiwedd blwyddyn academaidd 2021-22 barhau â’r ddarpariaeth, a bod modd derbyn dysgwyr newydd a nodwyd ym mlwyddyn academaidd 2022-23 eu bod yn bodloni’r meini prawf ar gyfer y ddarpariaeth. Drwy roi’r trefniant hwn ar waith dros dro ym mlwyddyn academaidd 2022-23 bydd modd i ddysgwyr yn y Cyfnod Sylfaen yng Nghonwy ddal i dderbyn y ddarpariaeth wrth i’r ymgynghoriad fynd rhagddo.

Mae canolfan adnoddau ymddygiad y Cyfnod Sylfaen yn rhoi addysg i hyd at saith o ddysgwyr na ellir bodloni eu hanghenion ymddygiad cymdeithasol ac emosiynol yn eu hysgolion yn y brif ffrwd. Wrth atgyfeirio disgyblion mae’n rhaid i ysgolion ddangos tystiolaeth y gwnaed addasiadau sylweddol ac y lluniwyd cynlluniau unigol yn yr ysgol, a bod y dysgwr serch hynny’n dal yn methu â chael mynediad i’r cwricwlwm oherwydd eu hanghenion ymddygiadol.

Ar hyn o bryd mae gan Gonwy un ganolfan adnoddau ar gyfer dysgwyr ag anghenion ymddygiad cymdeithasol ac emosiynol yn y Cyfnod Sylfaen.  Mae dysgwyr yng Nghyfnodau Allweddol 2, 3 a 4 yn ymuno ag Uned Cyfeirio Disgyblion Canolfan Addysg Conwy. Sicrheir drwy hynny fod darpariaeth yng Nghonwy ar gyfer dysgwyr ymhob Cyfnod Allweddol.

Hoffem wybod ble fyddai’r lle gorau i’r ddarpariaeth yn hirdymor fel bod dysgwyr yn y Cyfnod Sylfaen ledled Conwy’n dal i gael mynediad i’r ddarpariaeth.

Y gobaith yw y bydd y cynnig hwn yn helpu i sicrhau y darperir addysg briodol a graenus i ddysgwyr ag anghenion ymddygiad cymdeithasol ac emosiynol ymhob Cyfnod Allweddol. Bydd hefyd yn helpu’r Awdurdod Lleol i gyflawni ei ddyletswyddau statudol i sicrhau bod gan bob dysgwr fynediad at leoliadau a darpariaeth addysg briodol, fel y canfuwyd drwy’r drefn asesu statudol.

Nod y cynnig hwn yw bod darpariaeth ar gael yng Nghonwy ar gyfer pob Cyfnod Allweddol. Dylai hynny sicrhau y gellir rhoi cefnogaeth effeithiol i ddysgwyr sy’n bodloni’r meini prawf mynediad a’u bod yn dilyn cwricwlwm priodol a chyflawni eu llawn botensial.

1.2 Y cynnig sy'n destyn yr ymgynhoriad statudol hwn


Symud Canolfan Ymddygiad y Cyfnod Sylfaen i Ganolfan Addysg Conwy: y Ddraig Goch yn barhaol fel bod y ddarpariaeth yn dal ar gael.

Tudalen nesaf

end content