Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Ymgynghoriad Symud Canolfan Ymddygiad y Cyfnod Sylfaen - Manylion y Cynnig


Summary (optional)
start content

4. Manylion y Cynnig

4.1 Y Ganolfan Adnoddau


Mae lle yn y ganolfan i hyd at saith o ddysgwyr, sy’n cael eu hystyried fel un dosbarth. Caiff dysgwyr fynediad i’r ddarpariaeth ar sail eu hanghenion cyfredol, ac felly gallant fynychu’n llawn-amser neu’n rhan-amser gan ddibynnu ar eu hymddygiad. Mae’r holl ddysgwyr yn cael rhyw gyswllt â’r ysgol lle maent wedi cofrestru fel rhan o’u hamserlenni er mwyn hwyluso’r drefn o ddychwelyd a chynnal cysylltiadau’r dysgwyr â’u hysgolion.

Nod y ddarpariaeth yw bod dysgwyr yn arfer strategaethau i reoli eu hymddygiad fel bod modd iddynt ddychwelyd i’w hysgolion prif ffrwd ac integreiddio ynddynt. Pan ddaw’r dysgwyr i’r ganolfan mae modd cynnal asesiadau eraill hefyd i ganfod a oes ganddynt Anghenion Dysgu Ychwanegol.

4.2 Trefniadau cludiant


Bydd yr Awdurdod Lleol yn darparu tacsi/bws mini i gludo dysgwyr i’r ganolfan. Lle bo modd, bydd y dysgwyr yn rhannu cludiant.

4.3 Staffio


Goruchwylir y ddarpariaeth gan yr aelodau canlynol o staff:

  • 1 Athro llawn-amser
  • 1 CALU GO5 32.5 awr
  • 1 Cymhorthydd Addysgu GO1 30 awr

4.4 Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb:


Cynhelir Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb llawn fel rhan o’r ymgynghoriad statudol hwn.  Caiff yr asesiad llawn ei gynnwys yn yr adroddiad ymgynghori a gyhoeddir wedi’r cyfnod ymgynghori.

4.5 Buddion ac anfanteision


Ni chredir fod unrhyw anfanteision o barhau â’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol hon mewn ymateb i’r anghenion sydd wedi’u nodi ac sy’n debygol o gynyddu.

Credir y bydd mantais o sicrhau y bydd dysgwyr yng Nghonwy sydd angen darpariaeth ychwanegol/arbenigol yn medru cael mynediad ato ymhob Cyfnod Allweddol.

Bydd cynnal y ddarpariaeth yng Nghonwy’n golygu na fydd gofyn i ddisgyblion fynd allan o’r sir am y gwasanaeth.

Bydd integreiddio’r ddarpariaeth yn Uned Cyfeirio Disgyblion Canolfan Addysg Conwy yn sicrhau fod yr holl adnoddau ar gyfer dysgwyr oedran cynradd dan un to.

4.6 Darpariaeth Gymraeg


Wrth lunio’r cynnig hwn rydym wedi ystyried yr angen am ddarpariaeth Gymraeg a Saesneg.

Mae’r staff yn gymwys i ddarparu’r gwasanaeth yn Gymraeg ym mlwyddyn academaidd 2022-23. Gan fod darpariaeth y Cyfnod Sylfaen yn agored i holl ysgolion Conwy mae’n rhaid ystyried y Gymraeg wrth gynllunio’r ddarpariaeth a sicrhau ei fod yn hygyrch.

4.7 Canolfan Addysg Conwy


Yng Nghanolfan Addysg Conwy y mae Uned Cyfeirio Disgyblion Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Fel awdurdod addysg mae gan Gonwy ‘[Ddyletswydd] i wneud trefniadau ar gyfer darparu addysg addas mewn ysgol neu fan arall ar gyfer pob plentyn o’r oedran ysgol na fyddai’n derbyn yr addysg heb wneud trefniadau o’r fath oherwydd salwch, eithriad neu reswm arall.’ Adran 19 o Ddeddf Addysg 1996).

Darperir Unedau Cyfeirio Disgyblion yng Nghonwy drwy bortffolio o safleoedd ar ôl newid y drefn ym mis Ebrill 2019. Yn sgil hynny mae tri o safleoedd, sef y Ddraig Goch [Cyfnod Allweddol 2], Penmaenrhos [Cyfnod Allweddol 3] a Rhodfa Penrhos [Cyfnod Allweddol 4], oll wedi cofrestru â Chanolfan Addysg Conwy gydag un Pennaeth yn eu goruchwylio. Mae Pennaeth Cynorthwyol yn arwain pob safle unigol. Polisïau ac arferion safonol Canolfan Addysg Conwy, felly, sydd ar waith yn yr holl safleoedd.

Cynhaliodd Estyn arolygiad o’r ddarpariaeth yn unol â’r Fframwaith Arolygu newydd ym mis Chwefror 2020 a chanfu nad oedd gofyn am unrhyw gamau dilynol na chategoreiddio. O dan y fframwaith arolygu newydd ni chaiff Ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion mwyach raddau syml fel ‘da’ neu ‘rhagorol’.

Tudalen nesaf

end content