Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Ymgynghoriad Symud Canolfan Ymddygiad y Cyfnod Sylfaen - Egluro'r Drefn Statudol


Summary (optional)
start content

6. Egluro’r Drefn Statudol


Cyflwynwyd yr adroddiad hwn i’r Cabinet ar 10 Hydref 2022 a chymeradwywyd yr argymhelliad i gynnal ymgynghoriad statudol ynghylch y cynnig uchod, gan sicrhau fod y Cyngor yn ystyried buddion pawb dan sylw ac yn ymateb iddynt.

Hon yw’r ddogfen ymgynghori sy’n cynnwys manylion ynglŷn â chefndir y cynnig i symud Canolfan Adnoddau’r Cyfnod Sylfaen i Ganolfan Addysg Conwy: y Ddraig Goch. Cyhoeddir y ddogfen hon ar 5 Rhagfyr 2022 a derbynnir ymatebion nes 13:00 ar 27 Ionawr 2023.  Wedi’r terfyn amser hwnnw ni fydd yr ymatebion ond yn cyfrif fel sylwadau ac nid gwrthwynebiadau. Os dymuna rhywun wrthwynebu rhaid iddynt wneud hynny ar ôl dyddiad cyhoeddi’r hysbysiad statudol (os cyhoeddir un).  Yn ystod yr ymgynghoriad hwn gall ymatebion fod ar ffurf sylwadau neu gwestiynau ynglŷn ag unrhyw agwedd ar y cynnig, a gellir awgrymu dewisiadau eraill.

Pan ddaw’r cyfnod ymgynghori statudol i ben cyflwynir adroddiad i’r Cabinet yn gofyn iddo benderfynu a ddylid bwrw ymlaen â’r cynnig i symud Canolfan Adnoddau Ymddygiad y Cyfnod Sylfaen.  Bydd adroddiad yr ymgynghoriad yn cynnwys crynodeb o’r sylwadau a chwestiynau a dderbyniwyd gan ymgyngoreion ac fe’i cyhoeddir ar wefan y Cyngor.  Hysbysir yr holl fuddgyfranogwyr, fel y’u rhestrir uchod, pan gyhoeddir adroddiad yr ymgynghoriad.

Os penderfyna’r Cabinet fwrw ymlaen â’r cynigion ar ôl ystyried adroddiad yr ymgynghoriad, cyhoeddir hysbysiad statudol o’r dewis/cynnig dan sylw.  Cyhoeddir yr hysbysiad hwnnw ar ddiwrnod ysgol a bydd yno wedyn “gyfnod ar gyfer gwrthwynebiadau” am 28 o ddiwrnodau wedi cyhoeddi’r cynigion.  Gall unrhyw un wrthwynebu’r cynigion.  Cyhoeddir yr hysbysiad ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a’i arddangos ym mhrif dderbynfa Canolfan Addysg Conwy.  Anfonir copïau i’r ysgolion eu rhannu â disgyblion, rhieni, gofalwyr a gwarcheidwaid, staff a llywodraethwyr.  Bydd Gwasanaethau Addysg Conwy’n darparu copïau papur ar gais.

Pan ddaw’r cyfnod ar gyfer gwrthwynebu i ben bydd y Cyngor yn cyhoeddi crynodeb o’r gwrthwynebiadau statudol ac ymateb y Cyngor i’r rheiny mewn ‘adroddiad gwrthwynebiadau’.  Fel uchod, hysbysir yr holl fuddgyfranogwyr allweddol pan gyhoeddir yr adroddiad hwn gan roi gwybod ble i ddod o hyd iddo.

Bydd Cabinet y Cyngor yn penderfynu ynghylch yr adroddiad gwrthwynebiadau mewn 28 ar ôl i’r cyfnod ar gyfer gwrthwynebiadau ddod i ben.  Pan fydd y Cabinet wedi penderfynu fe gyhoeddir y penderfyniad yn ysgrifenedig ynghyd â’r rhesymau drosto.  Cyhoeddir y penderfyniad ar wefan y Cyngor a hysbysir yr holl fuddgyfranogwyr allweddol.

Mewn rhai achosion, wedi i’r Cabinet benderfynu, mae modd i’r cyrff canlynol gyfeirio’r cynnig at Weinidogion Cymru er ystyriaeth:

  • Awdurdod Lleol arall y mae’r cynnig yn effeithio arno
  • Corff crefyddol priodol ar ran unrhyw ysgol y mae’r cynnig yn effeithio arni
  • Corff llywodraethu unrhyw ysgol wirfoddol neu ysgolion sefydledig sy’n destun y cynigion
  • Unrhyw Ymddiriedolaeth sy’n meddu ar dir ar ran ysgol wirfoddol neu ysgol sefydledig sy’n destun y cynnig.

Wrth gyfeirio’r cynnig mae’n rhaid i’r cyrff dan sylw nodi’r rhesymau pam eu bod o’r farn fod penderfyniad yr Awdurdod Lleol yn wallus.  Bydd Gweinidogion Cymru’n penderfynu a yw’r cynigion yn effeithio ar y cyrff dan sylw ac a oes angen iddynt ystyried y cynigion.

Ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad

end content