Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Ymgynghoriad Symud Canolfan Ymddygiad y Cyfnod Sylfaen - Rhagair


Summary (optional)
start content

Rhagair


Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn ymateb i’r angen i symud y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghonwy.  Wrth gynnig symud Canolfan Ymddygiad y Cyfnod Sylfaen mae’n ofynnol cynnal ymgynghoriad statudol yn unol ag Adran 2.3 o God Trefniadaeth Ysgolion 2018.

Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Hydref 2022, penderfynodd y Cabinet gychwyn yr ymgynghoriad ynglŷn â chynnig i symud Canolfan Ymddygiad y Cyfnod Sylfaen. Cynhelir yr ymgynghoriad statudol rhwng 5 Rhagfyr 2022 tan 27 Ionawr 2023 a’r testun yw ‘Symud Canolfan Ymddygiad y Cyfnod Sylfaen i Ganolfan Addysg Conwy: y Ddraig Goch yn barhaol fel bod y ddarpariaeth yn dal ar gael.’

Dymuna Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy roi cyfle ichi fynegi eich barn ar y cynnig a phan ddaw’r cyfnod ymgynghori i ben, fe gyflwynwn adroddiad gerbron Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Mae copi o’r ddogfen hon a phapurau cefndir ar gael ar wefan y Cyngor: https://www.conwy.gov.uk/ymgynghoriadauaddysg

SYLWER – mae’n rhaid anfon unrhyw sylwadau ynghylch y ddogfen ymgynghori statudol i’r Gwasanaethau Addysg erbyn 13:00 ar 27 Ionawr 2023.  Gweler y manylion cyswllt yn nes at ddiwedd yr adroddiad.Edrychwn ymlaen at glywed eich barn.

Yn gywir

DrLowriBrownSignature

Dr Lowri Brown
Pennaeth y Gwasanaethau Addysg

Tudalen nesaf

end content