Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cau Ysgol Llannefydd


Summary (optional)
start content

Yn ei gyfarfod ar 13 Rhagfyr 2022, yn dilyn ystyriaeth ofalus, penderfynodd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gadarnhau’r cynnig i gau Ysgol Llannefydd ar 31 Rhagfyr 2022.

Cynigion i gau Ysgol Llannefydd yn ffurfiol

Yn y cyfarfod ar 12 Gorffennaf 2022, penderfynodd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i symud cynnig ymlaen i gau Ysgol Llannefydd gan gyhoeddi hysbysiad i gau yn unol ag adran 43 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a Chod Trefniadaeth Ysgolion (Yr Ail Rifyn). 

O fewn cyfnod o 28 diwrnod o’r dyddiad y cyhoeddwyd y cynnig, sef cyn 3 Hydref 2022, gall unrhyw un wrthwynebu’r cynnig hwn. 

Dyddiad cau’r ymgynghoriad

Gan fod Ŵyl Banc ychwanegol wedi disgyn yn ystod y cyfnod hwn, roedd diwrnod ychwanegol yn cael ei ychwanegu ar gyfer ymatebion.

Y dyddiad cau roedd 4 Hydref 2022.

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cyhoeddi crynodeb o unrhyw wrthwynebiadau a wneir o fewn y cyfnod gwrthwynebu (a heb ei dynnu’n ôl yn ysgrifenedig), ynghyd â sylwadau’r Cyngor, o fewn  28 diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod gwrthwynebu. Mae’r adroddiad llawn ar gael isod.

Dogfennau

end content