Yn dilyn cyhoeddi canllawiau wedi’u diweddaru gan Lywodraeth Cymru ym mis Mai 2023, mae’r wybodaeth ar y dudalen hon yn cael ei hadolygu a gall newid. Os ydych chi’n addysgu’ch plentyn gartref ar hyn o bryd neu’n ystyried gwneud hynny, efallai yr hoffech chi gyfeirio at Addysg yn y cartref: llawlyfr i addysgwyr yn y cartref Llywodraeth Cymru.
Oes raid i blant fynd i’r ysgol?
O dan Ddeddf Addysg 1996 mae’n ddyletswydd ar rieni neu warcheidwaid i “sicrhau addysg eu plant” sydd “yn yr oedran ysgol gorfodol”, ond mae modd cyflawni hynny naill ai drwy fynychu ysgol neu “fel arall”. Wrth gwrs, i’r rhan helaeth o blant mae hynny’n golygu mynychu’r ysgol leol ond am amryw resymau, bydd lleiafrif bychan o rieni’n dymuno ysgwyddo’r cyfrifoldeb am addysgu eu plant eu hunain, y tu allan i drefn y wladwriaeth. Mae rhai pobl yn anfon eu plant i gael addysg breifat mewn ysgolion annibynnol (boed hynny fel disgyblion dydd neu ddisgyblion preswyl); dymuna eraill gyflawni’r “ddyletswydd i addysgu” eu hunain.
Beth a ddisgwylir gan rieni sy’n penderfynu addysgu gartref?
Os yw’ch plentyn yn iau na’r oedran ysgol statudol [y tymor ar ôl pen-blwydd y plentyn yn bump oed] yna nid oes angen ichi wneud dim.
Os yw’ch plentyn yn hŷn na phump oed a’ch bod yn bwriadu ei (h)addysgu gartref, byddem yn ddiolchgar petaech yn anfon llythyr at Bennaeth y Gwasanaethau Addysg, Gwasanaethau Addysg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Ffordd Coed Pella, Bae Colwyn, LL29 7AZ gan ddatgan eich bod yn bwriadu addysgu’ch plentyn gartref o ryw ddyddiad penodol ymlaen.
Os bu’ch plentyn yn mynychu’r ysgol o’r blaen, boed hynny yn sir Conwy neu cyn ichi symud yma, yna mae’n rhaid ichi ysgrifennu i’r ysgol a gofyn am “ddad-gofrestru” eich plentyn.
O dan Adran 7 o Ddeddf Addysg 1996, mae angen i rieni plant nad ydynt wedi cofrestru mewn ysgol “beri [i’r plentyn] dderbyn addysg llawn-amser effeithlon sy’n addas i’w (h)oedran, gallu a doniau a bodloni unrhyw anghenion addysgol arbennig sydd ganddo/ganddi, boed hynny drwy fynychu ysgol neu fel arall.”
Er lles pawb rydym yn annog rhieni i feithrin cyswllt â’r Awdurdod Lleol fel bod modd cynnig cefnogaeth a chyngor i’w cynorthwyo i gyflawni eu dyletswyddau statudol.
Rydym yn ysgrifennu at rieni sy’n dewis addysgu eu plant gartref bob blwyddyn i gynnig cefnogaeth. Byddem yn ddiolchgar pe byddech yn ymateb i’r llythyron hyn gan y bydd yn anodd, os nad yn amhosib, i’r Awdurdod Lleol gadarnhau a yw’r rhieni’n cyflawni eu dyletswyddau statudol os yw’r rhieni hynny’n dewis peidio â chyfathrebu â’r Cyngor ynglŷn â’r addysg a ddarperir gartref.
Mewn achosion felly ni fyddai dewis gan yr Awdurdod Lleol ond gwneud ymholiadau mwy ffurfiol, ac yn y pen draw gallai fod angen cyflwyno Rhybudd yn rhoi cyfnod penodol o amser i’r rhieni argyhoeddi’r Cyngor y darperir addysg addas. Wrth reswm, pe byddai rhieni’n dewis anwybyddu Rhybudd o’r fath yna ni fyddai’r Awdurdod Lleol yn medru cadarnhau a yw’r addysg a ddarperir gartref yn briodol, ac felly’r unig ddewis fyddai cyflwyno Gorchymyn Mynychu’r Ysgol.
Beth a olygir gan addysg “effeithlon”?
Nid oes angen i’r hyn a ddarperir fod ar ffurf “gwersi” fel yn yr ysgol; mae’r rhiant yn rhydd i ddatblygu rhaglen waith a fydd yn cynorthwyo’r plentyn i ddysgu yn ôl ei (h)oedran, gallu a doniau.
Byddai’n rhesymol i’r Awdurdod Lleol ddisgwyl fod y ddarpariaeth yn cynnwys yr elfennau canlynol:
- Cyfranogi cyson gan rieni neu ofalwyr arwyddocaol eraill – disgwylir y byddai rhieni neu ofalwyr arwyddocaol yn chwarae rhan flaenllaw, er na fyddai disgwyl o reidrwydd iddynt ymwneud â darparu addysg gydol yr amser.
- Rhywbeth i ddangos bod y rhieni wedi ystyried yn drylwyr eu rhesymau dros addysgu gartref a’r hyn y gobeithiant ei gyflawni.
- Arwyddion o ymrwymiad a brwdfrydedd, a chydnabyddiaeth o anghenion y plentyn, ei (h)agweddau a’i (d)dyheadau.
- • Cyfleoedd i’r plentyn gael eu hysgogi gan y profiadau dysgu.
- Cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n addas yn ôl diddordebau’r plentyn a’i (d)datblygiad.
- • Mynediad at yr adnoddau a’r deunyddiau sydd eu hangen er mwyn cyflawni amcanion y rhieni.
- • Cyfle i ryngweithio â phlant eraill ac oedolion eraill.
- • Gwahodd Gyrfa Cymru i gyfrannu ar yr adeg briodol.
- Datblygu sgiliau rhifedd a llythrennedd sy’n addas yn ôl oedran y plentyn, eu doniau a’u gallu a rhoi ystyriaeth i unrhyw anghenion addysgol arbennig sydd ganddynt.
Beth yw dyletswyddau’r Awdurdod Lleol?
Pennir dyletswyddau a phwerau’r Awdurdod Lleol yng nghyswllt plant a addysgir gartref yn Neddf Addysg 1996. Fe’u nodir yn llawn yn adrannau 437 i 443 o’r Ddeddf, ac nid oes unrhyw ddyletswyddau na phwerau eraill (ac eithrio mewn cysylltiad ag anghenion addysgol arbennig).
“437. - (1) Os ymddengys i awdurdod addysg lleol nad yw plentyn sydd yn yr oedran ysgol gorfodol yn ei ardal yn derbyn addysg addas, naill ai drwy fynychu ysgol neu fel arall, fe fydd yn cyflwyno Rhybudd ysgrifenedig i’r rhieni yn mynnu eu bod yn argyhoeddi’r awdurdod addysg lleol fod y plentyn yn derbyn y fath addysg erbyn y dyddiad a nodir yn y Rhybudd”. Fel y soniwyd eisoes, os yw rhieni’n dewis peidio â chydymffurfio â gofynion y Rhybudd, ni fyddai dewis gan yr Awdurdod Lleol ond cyflwyno Gorchymyn Mynychu’r Ysgol.
Beth os yw fy mhlentyn wedi cofrestru fel disgybl mewn Ysgol Arbennig?
Mae’r sefyllfa’n dra gwahanol yn yr achos hwn. Mae Deddf 1996 yn pennu cyfrifoldebau i rieni yn ogystal â’r Awdurdod Lleol. Yn y Datganiad o Anghenion nodir yr anghenion y mae’n rhaid eu bodloni drwy ddarpariaeth addas, ac mae’n rhaid i rieni ymgynghori â’r Awdurdod Lleol cyn ystyried addysgu eu plentyn mewn unrhyw le arall ond yr ysgol a enwir yn Adran 4 o’r datganiad.
Os yw’r plentyn yn mynychu Ysgol Arbennig yna mae’n hanfodol dechrau trafod yn gynnar er mwyn sicrhau bod y rhieni a’r Awdurdod Lleol yn cyflawni eu cyfrifoldebau.
Beth os ydw i’n cadw fy mhlentyn o’r ysgol heb anfon unrhyw wybodaeth?
Os nad ydych chi’n dad-gofrestru’ch plentyn yn iawn byddai’r awdurdod yn dod i’r casgliad eu bod yn colli addysg.
O dan Ddeddf Addysg 1996 mae’n rhaid i’r Awdurdod Lleol fodloni ei hun bod y rhieni’n cyflawni eu dyletswydd os ymddengys nad ydynt yn gwneud hynny. Gallai hynny fod ar sail pryderon a godwyd am safon yr addysg, neu oherwydd bod y rhieni heb ymateb i’n llythyron. Os nad ydych yn ymateb i’n llythyron os codwyd pryderon ynglŷn â’r addysg, neu’n methu â darparu unrhyw dystiolaeth arall i ddangos bod eich plentyn yn derbyn addysg briodol, yna mae’n anorfod na fedr yr Awdurdod Lleol gadarnhau a yw’r addysg a ddarperir yn addas yn ôl oedran y plentyn, eu gallu a’u doniau. Mewn achos fel hyn ni fyddai dewis gan yr Awdurdod ond gweithredu’n unol ag Adran 437 o Ddeddf Addysg 1996, sef cyflwyno Rhybudd yn mynnu eich bod yn argyhoeddi’r Awdurdod Lleol eich bod yn darparu addysg addas, ac os na fedrwch wneud hynny gellir cyflwyno Gorchymyn Mynychu’r Ysgol yn mynnu bod eich plentyn yn mynychu ysgol benodol.
Beth sy’n digwydd os nad yw’r Awdurdod Lleol yn fodlon?
Bydd yr Awdurdod Lleol yn argymell camau i sicrhau bod y ddarpariaeth addysg yn y cartref yn addas, a bydd yn rhoi cyngor ar sut i wella pethau (ac yn cynnig cefnogaeth â hynny). Bydd hyn yn cael ei adolygu.
Os bydd yr Awdurdod yn dal yn anfodlon (wedi’r adolygiad) yna bydd yn gofyn eich bod yn cofrestru’ch plentyn mewn ysgol, gan gyflwyno Gorchymyn Mynychu os oes raid. Pwysleisiwn fodd bynnag na fydd hynny’n digwydd ond os rydym yn sicr nad ydych yn darparu addysg sy’n addas yn ôl oedran eich plentyn, eu gallu a’u doniau a bod y cyngor a chefnogaeth a roddwyd heb newid pethau – hyderwn y bydd modd inni egluro’n union beth yw’r sefyllfa drwy gael trafodaethau manwl.
Pa mor aml fydd yr Awdurdod Lleol yn cysylltu â mi os ydw i’n addysgu fy mhlentyn gartref?
Fel arfer, os nad oes gan yr Awdurdod Lleol reswm i bryderu ynghylch yr addysg a ddarperir gartref, ni fyddwn ond yn cysylltu â chi unwaith y flwyddyn i ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf a chynnig cefnogaeth.
Beth am bynciau gorfodol?
Nid oes unrhyw bynciau gorfodol – dylid rhoi blaenoriaeth, serch hynny, i sgiliau sylfaenol llythrennedd a rhifedd. Nid oes raid i addysg fod ar ffurf “gwersi” ac “amserlen” ymhob achos, ac mae adnoddau ar gael ichi eu defnyddio gan asiantaethau fel:
Education Otherwise,
P.O. Box 1309,
Blackpool,
FY1 9HN.
Anfonwch amlen gyda’ch cyfeiriad a stamp arni gyda’ch ymholiad.
Gwefan: www.educationotherwise.org
E-bost: enquiries@educationotherwise.org
Mae croeso ichi gysylltu â’r Awdurdod Lleol unrhyw bryd os oes arnoch angen rhagor o gyngor:
Pennaeth y Gwasanaethau Addysg (Prif Swyddog Addysg)