Roedd y cyfnod rhwng 3 – 7 oed yn cael ei adnabod fel y Cyfnod Sylfaen, a dyma’r cwricwlwm statudol ar gyfer pob plentyn o fewn y grŵp oedran hwn. Wrth i Lywodraeth Cymru roi’r Cwricwlwm newydd i Gymru ar waith, bydd y defnydd o’r term ‘Cyfnod Sylfaen’ yn cael ei ddileu. Mae hyn yn adlewyrchu bod y cwricwlwm bellach yn gontinwwm 3-16 heb gamau na chyfnodau.
Mae dysgu sylfaen yn canolbwyntio ar y dulliau addysgu a dysgu pedagogaidd sy'n sgaffaldio dysgu a datblygiad pob plentyn yn y blynyddoedd cynnar. Mae hyn yn adlewyrchu pwysigrwydd y cyfnod hwn o ddysgu.
Gellir darparu Addysg Gynnar mewn ysgolion neu leoliadau nas cynhelir a ariennir ac mae plant yn gymwys i dderbyn addysg gynnar yn dilyn eu trydydd pen-blwydd.