Manylion y cwrs:
Dyddiad | Amser | Lleoliad | Hyfforddwr | Ffi cwrs |
19/01/2023 - Rhan 1 & 26/01/2023 - Rhan 2 (Rhaid mynchu'r ddau ddyddiad) |
6.30pm - 8pm |
Hyfforddiant o bell dros y we drwy zoom |
Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Portage |
AM DDIM |
Nodau ac amcanion y cwrs:
Hyfforddiant ymwybyddiaeth ragarweiniol ar egwyddorion ac arferion y dull ‘Portage’ o gefnogi plant cyn-ysgol (a’u teuluoedd) ag anghenion dysgu / cymhleth ychwanegol.
Dyma gyflwyniad i Portage a ddarperir gan Hyfforddwr Achrededig NPA.
Nod y Gweithdy Ymwybyddiaeth Portage yw codi ymwybyddiaeth, gwybodaeth a dealltwriaeth o'r Dull Portage o weithio gyda phlant ag anghenion ychwanegol a'u teuluoedd, ac mae'n addas ar gyfer ystod eang o gynulleidfaoedd gan gynnwys arweinwyr strategol, rheolwyr canol, ymarferwyr blynyddoedd cynnar a rhieni.
Yn ganolog i’r cwrs mae’r ‘Portage Principles’ a’r ffyrdd y gall gweithlu’r blynyddoedd cynnar gymhwyso’r egwyddorion hyn yn y cartref ac mewn lleoliadau.
Mae'r gweithdy'n edrych ar sut y gall datblygu gwasanaethau Portage yn eich safleoedd chi helpu i fynd i'r afael â blaenoriaethau allweddol i awdurdodau lleol wrth weithredu Deddf Plant a Theuluoedd 2014 a datblygu addysg gynnar i blant dwy oed ag ADY. Mae'r NPA wedi gosod safonau ar gyfer cynnwys y gweithdy, ac yn cynghori tua hanner diwrnod ar gyfer cyflwyno, ond gall yr hyd amrywio yn ôl y gynulleidfa a'r pwrpas.
Bydd y sesiynau hyn yn para 2 awr a bydd yn anelu at gynyddu'r wybodaeth am Portage, sut mae'n gweithio a sut y gellir ei ddefnyddio mewn lleoliad cyn-ysgol i gefnogi proses ddysgu plentyn a helpu'r plentyn i ddatblygu.