Roedd natur argyfyngus yr ymateb byd-eang i COVID-19 yn golygu newid sydyn i fywyd teuluol, ysgol a gwaith.
Yn ogystal ag addasu i’r holl newidiadau, bydd rhai plant wedi gorfod treulio amser gyda pherthnasau camdriniol, plant wedi gweld y rhai sy’n annwyl iddynt yn mynd yn wael neu fynd i’r ysbyty, teuluoedd wedi profi marwolaeth, yn ogystal â theuluoedd sydd wedi profi cymhlethdodau ychwanegol yn y cartref megis materion iechyd meddwl, straen, anawsterau perthynol neu galedi ariannol o ganlyniad i’r cyfnod clo.
Wrth i’r cyfyngiadau cychwynnol gael eu llacio, mae ansicrwydd sylweddol yn parhau, gyda’r cam ‘ar ôl y cyfnod clo’ yn dod a newidiadau eraill. Mae’n amlwg erbyn hyn na fydd bywyd yn dychwelyd i’r arfer am dipyn o amser eto. Mae’r sesiwn yn darparu cyfle i ni ystyried effaith pandemig COVID-19 a’r mesurau diogelu cysylltiedig sydd ar blant a phobl ifanc. Mae’r sesiwn yn defnyddio’r ymchwil gorau sydd ar gael ynglŷn â’r hyn mae plant ei angen i’w cynorthwyo i addasu a thyfu’n gryfach yn ystod cyfnodau ansicr ac anodd.
Dyddiad | Amser | Lleoliad | Hyfforddwr | Ffi Cwrs |
07/12/2020 (Sesiwn Saesneg) |
6.30 - 9pm |
Hyfforddiant o bell dros y we drwy Zoom |
Y Bont |
Am Ddim |
14/01/2021 (Sesiwn Saesneg) |
6.30 - 9pm |
Hyfforddiant o bell dros y we drwy Zoom |
Y Bont |
Am Ddim |
20/01/2021 (Sesiwn Gymraeg) |
6.30 - 9pm |
Hyfforddiant o bell dros y we drwy Zoom |
Y Bont |
Am Ddim |
05/02/2021 (Sesiwn Saesneg) |
1 - 3.30pm |
Hyfforddiant o bell dros y we drwy Zoom |
Y Bont |
Am Ddim |
11/02/2021 (Sesiwn Gymraeg)
|
6.30 - 9pm |
Hyfforddiant o bell dros y we drwy Zoom |
Y Bont |
Am Ddim |
Cynnwys y gweithdy:
- Ystyried sut mae staff, rhieni a phlant yn teimlo
- Edrych ar dystiolaeth o ymchwil o’r pandemig hwn a phandemigau eraill
- Edrych ar ddysgeidiaeth o sefyllfaoedd tebyg eraill
- Deall effaith trawma ar blant
- Ystyried effaith y cyfnod clo
- Ystyried y cyfnod ôl cyfnod clo
- Ffactorau sy’n dylanwadu ar ymdopi
- Edrych ar yr hyn mae plant ei angen i'w cynorthwyo i reoli eu teimladau.
- Edrych ar ba gymorth mae plant, rhieni a staff ei angen i ymdopi.