Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Addysg, Plant a Phobl Ifanc Gwybodaeth i Deuluoedd a Gofal Plant Gwybodaeth i Ddarparwyr Gofal Plant Cyrsiau hyfforddi i Ddarparwyr Gofal Plant Diweddariad Gorfodol - Briff Diogelu ar gyfer Uwch Staff darparwyr Gofal Plant Blynyddoedd Cynnar

Diweddariad Gorfodol - Briff Diogelu ar gyfer Uwch Staff darparwyr Gofal Plant Blynyddoedd Cynnar


Summary (optional)
start content

Briff Diogelu Gorfodol, cyflwyno’r grwpiau newydd o hyfforddiant sydd ei angen ar gyfer darparwyr gofal plant.

Mae hwn wedi ei dargedu ar gyfer Rheolwyr Lleoliadau, Arweinwyr, Uwch Staff Lleoliadau Blynyddoedd Cynnar, Unigolyn Diogelu Dynodedig, Unigolion Cyfrifol neu weithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y sector Blynyddoedd Cynnar.

*Sylwer fod angen i o leiaf un unigolyn fynychu o bob lleoliad.

 

Manylion y Cwrs:

DyddiadAmserLleoliadHyfforddwrFfi Cwrs
22/06/2023 6.30pm - 9pm Hyfforddiant o bell dros y we drwy Microsoft Teams CCBC Am ddim

 

Bydd y sesiwn hon yn rhoi diweddariad ar y Safonau Diogelu, Dysgu a Datblygu Cenedlaethol a sut maent yn cefnogi’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer gofal plant a reoleiddir yn ogystal â datblygu gwybodaeth fanylach o ran eich swyddogaeth ddiogelu fel rheolwr/uwch aelod o staff mewn lleoliad blynyddoedd cynnar.

Canlyniadau dysgu:

  • Datblygu dealltwriaeth o’r Safonau Diogelu, Dysgu a Datblygu Cenedlaethol a pha staff grŵp sydd angen eu cwblhau
  • Datblygu mwy o ymwybyddiaeth o’r ddyletswydd i ddweud ynglŷn â phryderon diogelu
  • Cynyddu hyder wrth ysgrifennu a chyflwyno adroddiadau diogelu mewn modd amserol
  • Datblygu mwy o ddealltwriaeth o anafiadau nad ydynt yn ddamweiniol
  • Mwy o wybodaeth am gam-drin corfforol a Diddymu Cam-drin Corfforol
  • Deall Adran 5 Gweithdrefnau Diogelu Cymru - Honiadau/Pryderon Diogelu ynghylch Ymarferwyr a’r rhai mewn Swyddi o Ymddiriedaeth a’ch swyddogaeth fel rheolwyr o fewn lleoliadau blynyddoedd cynnar

Bydd y sesiwn yn 2.5 awr a disgwylir i’r rhai sy’n bresennol yn yr hyfforddiant rannu’r wybodaeth gyda’u staff/cydweithwyr

end content