Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Addysg, Plant a Phobl Ifanc Presenoldeb Ysgol - Cymorth a Chyngor

Presenoldeb Ysgol - Cymorth a Chyngor


Summary (optional)
Rydym yn deall fod codi eich plant a sicrhau eu bod yn cyrraedd yr ysgol ar amser bob bore yn gallu bod yn anodd weithiau, yn enwedig os nad yw eich plentyn eisiau mynd i’r ysgol am ba bynnag reswm. Fodd bynnag, mae mynychu’r ysgol er eu budd pennaf ac mae pob diwrnod yn bwysig. Dyma rai ffyrdd y gallwch eu helpu i gael allan o’r tŷ ac i’r ysgol ar amser.
start content

Beth allaf ei wneud i sicrhau bod fy mhlentyn yn mynychu’r ysgol?

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o bolisi presenoldeb yr ysgol, mae gan bob ysgol un.
  • Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn cyrraedd ar amser i ddechrau’r sesiynau yn y bore a’r prynhawn.
  • Os ydych chi’n amau efallai bod eich plentyn yn methu’r ysgol, neu’n anhapus yn yr ysgol, cysylltwch â’r ysgol yn y lle cyntaf neu, os ydych chi’n teimlo bod angen cymorth ychwanegol arnoch, cysylltwch â’r Gwasanaeth Gweithwyr Cymdeithasol Addysg cyn gynted â phosibl. Gallant eich helpu i ddatrys unrhyw anawsterau a chynnig cyngor cyfeillgar.
  • Os yw eich plentyn yn methu’r ysgol, cysylltwch â’r ysgol.  Bydd staff yr ysgol yn gweithio gyda chi i helpu i wella’r sefyllfa.  Mae’n well cysylltu â’r ysgol yn gyntaf fel y gallant wneud yn siŵr bod camau yn cael eu cymryd i’ch helpu chi.
  • Os yw eich plentyn i ffwrdd am resymau eraill, er enghraifft, ar gyfer apwyntiad meddyg neu ddeintydd, rhowch wybod i’r ysgol ymlaen llaw.
  • Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn gwybod nad ydych chi’n hapus iddynt fethu’r ysgol am ba bynnag reswm, ond byddwch yn wyliadwrus o unrhyw resymau penodol dros beidio â mynychu’r ysgol, fel bwlio neu anawsterau gyda gwaith ysgol.
  • Cymrwch ddiddordeb yn addysg eich plentyn, gofynnwch iddynt beth wnaethant yn yr ysgol a cheisiwch ganfod a ydynt yn cael trafferth mewn unrhyw ffordd a cheisiwch gynnig eich cefnogaeth. Os nad ydych chi’n gallu eu helpu, siaradwch â’r ysgol a rhowch wybod iddynt am unrhyw anawsterau.

Os ydych chi’n dal i gael trafferth anfon eich plentyn i’r ysgol

Peidiwch â phoeni. Gallwch ein ffonio ni a byddwn yn hapus i’ch helpu ym mha bynnag ffordd y gallwn. Gallwch ffonio 01492 575031 yn ystod oriau swyddfa arferol a gofyn am gael siarad gyda’r Gwasanaeth Gweithwyr Cymdeithasol Addysg.

Byddwn yn gweithio gyda chi a’r ysgol i wneud yn siŵr bod eich plentyn yn cael cefnogaeth neu’n mynd i’r afael ar unrhyw faterion a allai fod yn eu hatal rhag mynd i’r ysgol.

Os ydych chi’n poeni neu’n teimlo fod yno broblem gyda phresenoldeb eich plentyn, mae bob amser yn well i chi siarad â’u hysgol yn gyntaf. Gofynnwch i gael siarad gyda’r unigolyn sy’n gyfrifol am Bresenoldeb Ysgol, neu’r Pennaeth.

Mae’r Gwasanaeth Gweithwyr Cymdeithasol Addysg yn cynnig cyngor a chymorth ar ystod eang o faterion nad ydynt yn ymwneud â phresenoldeb ysgol a byddant yn llunio cynllun i helpu i sicrhau bod eich plentyn yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd.

Cysylltwch â ni am fanylion pellach ar 01492 575031.

end content