Ar 23 Gorffennaf 2024, cymeradwyodd y Cabinet newidiadau yn rhai o’r meini prawf dewisol ym mholisi Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol Conwy.
Gallai’r newidiadau hyn effeithio ar ddysgwyr sy’n ymgeisio am gludiant am ddim o’r cartref i’r ysgol ar gyfer y flwyddyn academaidd sy’n dechrau ym mis Medi 2025.
Gallwch weld y polisi diwygiedig a chael atebion i gwestiynau cyffredin ar wefan Conwy.
Nid yw’r newidiadau’n effeithio ar gludiant statudol am ddim o’r cartref i’r ysgol.