Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Addysg, Plant a Phobl Ifanc Cludiant Ysgol Cludiant i ddysgwyr – Cwestiynau a ofynnir yn aml

Cludiant i ddysgwyr – Cwestiynau a ofynnir yn aml


Summary (optional)
start content
Sut a phryd fyddaf yn cael fy hysbysu am y trefniadau cludiant?
Ar ôl i chi gael llythyr gan y Gwasanaethau Addysg, yn cadarnhau fod eich plentyn yn gymwys, bydd Tîm Trefniadau Cludiant Cartref i'r Ysgol yn cadarnhau'r trefniadau yn ysgrifenedig. Pe bai gennych unrhyw ymholiadau ynglÅ·n â'r trefniadau cysylltwch ag adran Trefniadau Cludiant Cartref i'r Ysgol ar e-bost: cludiantysgol@conwy.gov.uk neu trwy ffonio 01492 577899.
Pryd fyddaf yn cael fy nhocyn teithio?
Ar ôl i chi gael hysbysiad gan y Gwasanaethau Addysg, yn cadarnhau fod eich plentyn yn gymwys, bydd adran Trefniadau Cludiant Cartref i'r Ysgol yna'n prosesu eich tocyn teithio o fewn 10 diwrnod gwaith. Anfonir y tocyn teithio trwy'r post ail ddosbarth i'ch cyfeiriad cartref ynghyd â'r amserlen bws perthnasol. Bydd y tocyn yn ddilys am gyfnod addysg gorfodol eich plentyn. Pe bai gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y trefniadau cysylltwch ag adran Trefniadau Cludiant Cartref i'r Ysgol ar e-bost: cludiantysgol@conwy.gov.uk neu trwy ffonio 01492 577899.
Rwyf wedi newid fy nghyfeiriad/ysgol fy mhlentyn yn ddiweddar. Sut ddylwn wneud cais am gludiant ysgol?
Os yw eich plentyn yn gymwys ar hyn o bryd i gael cludiant ond wedi newid cyfeiriad ac/neu wedi newid ysgol rhaid i chi ein hysbysu ynghylch y manylion newydd yn syth. Gallwch wneud hyn trwy lenwi ffurflen gludiant newydd, trwy e-bost: ceisiadaucludiant@conwy.gov.uk neu trwy ffonio 01492 575595/575074
Mae fy mhlentyn yn cael ei gludo i'r ysgol ar hyn o bryd. Sut ddylwn adnewyddu'r cais ar gyfer y flwyddyn addysgol nesaf?
Os yw eich plentyn yn gymwys i gael cludiant ysgol a bydd yn symud i'r flwyddyn ysgol newydd yn yr un ysgol, bydd y cyngor yn diweddaru eich manylion yn awtomatig ac yn parhau i wneud y trefniadau cludiant angenrheidiol os nad yw eich cyfeiriad cartref wedi newid.
Sut gallaf archebu tocyn teithio newydd?
Os yw tocyn teithio eich plentyn wedi ei golli neu ei ddifrodi rhaid cael un newydd yn syth. Mae cost o £5.00 i gael tocyn newydd yn lle un sydd wedi ei golli neu ei ddifrodi. Gallwch archebu un newydd trwy ofyn yn nerbynfa ysgol eich plentyn neu trwy gysylltu ag adran Trefniadau Cludant Cartref i'r Ysgol ar e-bost: cludiantysgol@conwy.gov.uk neu trwy ffonio 01492 577899. Bydd y tocyn newydd yn cael ei bostio i'ch cyfeiriad cartref ar ôl cael y ffi o £5.00.
Dymunaf wneud cwyn am gludiant tacsi/bws mae fy mhlentyn yn ei ddefnyddio i deithio i'r ysgol
Hysbyswch y Cyngor pryd bynnag y bo problem er mwyn iddynt ymdrin â'r gŵyn yn syth. I gyflwyno cwyn cysylltwch ag adran Trefniadau Cludiant Cartref i'r Ysgol trwy anfon e-bost at: cludiantysgol@conwy.gov.uk neu trwy ffonio 01492 577899.
Sut byddwch yn mesur pellter?
Mesurir y pellter o gartref y plentyn i'r giât ysgol agosaf yn ôl y llwybr cerdded byrraf sydd ar gael. Mesurir y pellter gan ddefnyddio system mapio cyfrifiadurol.
Gwrthodwyd cludiant i'r ysgol am ddim i fy mhlentyn; hoffwn apelio yn erbyn y penderfyniad. Sut ddylwn fynd ati i wneud hyn?
Rhaid i unrhyw apêl fod yn ysgrifenedig a'i chyfeirio at:

Pennaeth y Gwasanaethau Addysg
Gwasanaethau Addysg
Blwch Post 1
Conwy
LL30 9GN

Gallwch hefyd anfon eich cais ar e-bost at: ceisiadaucludiant@conwy.gov.ukyn nodi eich rhesymau dros yr apêl a darparu unrhyw ddogfennaeth berthnasol i gefnogi eich achos.
end content