Prydau Ysgol am Ddim
Roedd ein taliad uniongyrchol ar gyfer y lwfans prydau ysgol am ddim wedi'i drefnu nes 9 Ebrill, 2021. Yn unol â chynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer dychwelyd i’r ysgol yn raddol, roedd angen i ni adolygu hyn wrth i rywfaint o ddysgwyr ddychwelyd i'r ysgol.
Bydd holl ddysgwyr yr ysgolion Cynradd a dysgwyr ysgolion Uwchradd Bl 11 a 13 yn dychwelyd i’r ysgol ar 15 Mawrth 2021. O ganlyniad, talwyd y lwfans prydau ysgol am ddim olaf i rieni ar gyfer y disgyblion hyn ddydd Iau, 11 Mawrth, 2021.
Yn ystod y cyfnod yma bydd lwfans prydau ysgol am ddim yn parhau i rieni dysgwyr Bl7, 8, 9, 10 a 12. Os bydd y dysgwyr yma yn mynychu’r ysgol a derbyn bwyd ysgol bydd rhaid iddynt dalu am y bwyd yn yr ysgol.
Bydd taliad uniongyrchol ar gyfer y lwfans prydau ysgol am ddim yn cael ei dalu i holl ddysgwyr gyda’r hawl ar ddydd Iau 1 Ebrill 2021 fel un taliad ar gyfer y pythefnos wyliau Pasg.
Rhestr Cwestiynau Cyffredin (PDF)
Nodwch os Gwelwch yn Dda
- Dim ond unwaith y byddwch yn gallu cyflwyno’r ffurflen hon gan ddefnyddio eich ID Hawlydd
- Ni fyddwn yn ffonio i ofyn i chi roi manylion eich cyfrif banc dros y ffôn
Llenwch y ffurflen isod a fydd yn ein galluogi i ddilysu eich manylion a threfnu bod y taliad perthnasol yn cael ei wneud i’r cyfrif banc a roddwyd.
*PWYSIG: Mae’n bwysig iawn eich bod yn rhoi’r manylion cyfrif banc/cymdeithas adeiladu cywir gan y bydd y manylion yr ydych yn eu rhoi yn cael eu defnyddio ar gyfer gwneud taliad ac ni fydd modd eu newid os ydych yn eu mewnbynnu yn anghywir
Defnyddiwch borwr gwe cyfredol wrth wneud eich cais
Nodwch eich cod didoli fel un rhif heb flychau na chysylltnod rhyngddynt
Cymorth gyda’ch cais
Os byddwch angen help gyda’ch cais ffoniwch 01492 575031 neu anfonwch e-bost at schooladvice@conwy.gov.uk
Hysbysiad Preifatrwydd
Drwy gyflwyno eich cais am grant busnes, rydych yn cytuno i rannu eich gwybodaeth gyda ChyngorBwrdeistref Sirol Conwy, Llywodraeth Cymru ac i’r Heddlu os oes achosion o dwyll.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Hysbysiad Preifatrwydd Llawn